Agenda item

Cynigion Cyllidebol 2023/2024 ar gyfer ymgynghori

Cofnodion:

Roedd Aelodau'n gefnogol o'r cais a wnaed gan y pwyllgor craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn.  I ddarparu manylion ychwanegol i aelodau ar y cynigion cyllidebol

 

Cadarnhaodd swyddogion fod fideo a thaflenni'n cael eu paratoi ar hyn o bryd.  Bydd y rhain yn egluro'r hyn y mae’r cyngor yn ei ddarparu a bydd yn rhoi manylion pellach mewn fersiwn hawdd ei darllen.  Gellir trefnu bod yn rhain ar gael i'r Aelodau. 

 

Yn ogystal, bydd pob Cyfarwyddwr yn darparu manylion pellach ar y gyllideb mewn perthynas â'u gwasanaethau i'w trafod yn y sesiynau pwyllgor craffu perthnasol sydd wedi'u trefnu’n benodol i drafod y gyllideb.

 

Hefyd, os bydd gan Aelodau gwestiynau neu mae angen eglurder arnynt ynghylch y gyllideb, cysylltwch â'r Prif Swyddog Cyllid neu'r Prif Weithredwr.  Roedd yn bwysig fod gan yr Aelodau'r holl eglurhad sydd ei angen yn barod ar gyfer ystyried hyn yng nghyfarfod y Cabinet a'r cyngor ar ddechrau mis Mawrth.

 

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

caiff y Cynigion Cyllidebol Drafft ar gyfer 2023/2024 eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o 19 Ionawr i 10 Chwefror 2023.

 

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cyflawni'r gofynion statudol i ymgynghori ar y cynigion cyllidebol drafft ar gyfer  2023/2024.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith gyda chaniatâd y Cadeirydd Craffu.

 

 

 

Dogfennau ategol: