Agenda item

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle ysgolion cynradd Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg

Dogfen Ymgynghori - Atodiadau A a D i ddilyn

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Trafododd yr Aelodau'r cynnig i ddiwygio'r argymhellion er mwyn osgoi cynnal y cyfnod ymgynghori dros gyfnod y Nadolig a awgrymwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu'r Cabinet a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn.  Ar ôl trafod, cytunwyd i roi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r aelodau gofynnol, ystyried ymestyn y cyfnod ymgynghori fel y manylir isod.

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiadau effaith mewn perthynas â chydraddoldeb, risg, defnydd cymunedol a'r Gymraeg, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru 2015), ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, cymeradwyo ymgynghori ar y cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant 3-11 oed gyda chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion o ddalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac Ysgol Gynradd Llangiwg, bydd pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2025 a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, Aelod Cabinet dros Addysg a Chadeirydd Craffu'r Cabinet, gytuno ar estyniad addas i'r cyfnod ymgynghori er mwyn galluogi aelodau'r cyhoedd i ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Y dyddiad ar gyfer rhoi hwn ar waith fydd 1 Medi 2025.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y penderfyniad hwn yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

 

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn.  Bydd hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.

 

 

 

Rhoi'r penderfyniad ar waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad

 

 Mae'r adroddiad yn gofyn am ganiatâd i ymgynghori.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: