Cofnodion:
Nododd
yr aelodau'r diweddariad mewn perthynas â diogelwch y cynghorydd; yn benodol
mewn perthynas ag aflonyddu, brawychu a cham-drin fel y manylir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Nodwyd
cafwyd cais gan y pwyllgor am y diweddaraf mewn perthynas â'r maes gwaith
hwn. Esboniodd swyddogion fod gan CLlLC
ymrwymiad i sefydlu gweithgor i ganolbwyntio'r trafodaethau ond nid oedd unrhyw
ddiweddariadau pellach ynghylch hwn ar hyn o bryd.
Cyflwynwyd
arweiniad ymarferol i aelodau a oedd wedi cael ei gynhyrchu gan y Gymdeithas
Llywodraeth Leol (CLlL): ‘A Councillor’s guide to handling harassment abuse and
intimidation’ a gofynnwyd bod copi'n cael ei ddosbarthu i holl aelodau'r
cyngor.
Trafododd
y pwyllgor yr argymhellion ar gyfer Awdurdodau Lleol a amlinellwyd yn yr
arweiniad, gan gynnwys: cael swyddogion a enwir i drafod materion o bryder,
cael Côd Ymddygiad, a chael prosesau penderfynu lleol. Nododd yr aelodau'r
argymhelliad yn yr arweiniad y dylai bod polisi pwrpasol gan y cyngor sy'n
amlinellu'r weithdrefn a'r protocolau os bydd cynghorydd yn teimlo ei fod yn
cael ei aflonyddu, ei ddychryn neu'i gam-drin a chytunwyd y dylai hyn gael ei
gyflwyno yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn y dyfodol ar
gyfer cadarnhad.
Dywedwyd
wrth aelodau fod gallu'r Awdurdod Lleol i helpu wrth ddatrys unrhyw broblemau
megis difenwad, enllib neu athrod yn gyfyngedig.
Cytunodd
y Pwyllgor y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru (CLlLC) ar ran y pwyllgor yn ceisio rhagor o wybodaeth am y mesurau sy'n
cael eu rhoi ar waith i gefnogi aelodau etholedig ac yn gofyn i faterion o'r
fath gael eu hystyried ar lefel genedlaethol.
Trafododd
yr aelodau gyfrifoldeb yr aelodau i baratoi asesiadau risg wrth gynnal
cymorthfeydd yn y gymuned. Roedd cyngor yn cynnwys rhoi gwybod i Heddlu De
Cymru a thrafod â chydweithwyr Iechyd a Diogelwch.
PENDERFYNWYD:
a) Bydd Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn nodi'r diweddaraf mewn perthynas ag ymdrin ag
aflonyddu, cam-drin a brawychu a chynnwys yr Arweiniad i Gynghorwyr ar Ymdrin
ag Aflonyddu, Cam-drin a Brawychu.
b) Bydd Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi'r rhaglen waith y bydd y swyddogion yn
dechrau arni'n fewnol a gyda rhanddeiliaid i ddatblygu protocol ar gyfer
aelodau mewn perthynas ag aflonyddu, cam-drin a brawychu.
c) Bydd Cadeirydd Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu at CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru) yn ceisio barn ychwanegol ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru'n eu hystyried i gefnogi aelodau etholedig sy'n dioddef
aflonyddu, cam-drin a brawychu.