Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Ysgolion Band C
Cadarnhaodd swyddogion fod yr adroddiad yn amlinellu ac yn argymell y
gyfran nesaf o ysgolion y mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol arnynt. Nid
oes gofyniad i ymgynghori ar y cam hwn. Gobaith yr adroddiad yw sicrhau
buddsoddiad amlinellol o Raglen Ariannu Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag,
nodwyd, os caiff hyn ei gymeradwyo, y bydd angen cyflwyno achos busnes
amlinellol i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob cynnig er mwyn sicrhau cyllid.
Gofynnodd yr aelodau a allai swyddogion roi eglurder ar y meini prawf ar
gyfer dewis ysgolion a pha bwysau a roddir i rai agweddau h.y. niferoedd
disgyblion, yr iaith Gymraeg etc. er mwyn i aelodau gael eu hysbysu ynghylch y
broses.
Cadarnhaodd swyddogion mai nod Rhaglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru yw lleihau
ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau dros gyfnod o amser. Amlinellodd
swyddogion sut mae'r cyfarwyddiaethau Addysg a'r Amgylchedd yn gweithio gyda'i
gilydd i nodi ysgolion a all gyflwyno materion heriol o ran parhad busnes yn y
dyfodol a sut y cânt eu blaenoriaethu. Ni roddir blaenoriaeth benodol i
ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae’r Gymraeg wedi’i hystyried yn y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gymeradwywyd yn ddiweddar ac os yw hwn
am gael ei gyflawni’n llwyddiannus, bydd angen cyllid cyfalaf sylweddol i
gyflawni ei uchelgeisiau.
Holodd yr Aelodau a oedd swyddogion yn rhagweld unrhyw effaith ar
drafodaethau cyllid â Llywodraeth Cymru ynghylch y posibilrwydd o oedi neu
benderfyniad ar ddefnyddio cyllid presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ysgol
newydd, y pwll ac uned anghenion dysgu ychwanegol yng Nghwm Tawe?
Cadarnhaodd swyddogion fod y swm o arian a sicrhawyd ar hyn o bryd ar gyfer
ail-fuddsoddi yng Nghymoedd Tawe yn £22.5miliwn, a bod arian yn cael ei sicrhau
ar gyfer prosiect penodol. Os nad yw'r prosiect yn mynd rhagddo, yna does dim
modd ei ddefnyddio. Mae pryder cyffredinol o ran y gost adeiladu a gallu
cyffredinol yr awdurdod lleol i ariannu o ran sefyllfa ei gyllideb. Nodwyd ei
bod yn debygol y gall Llywodraeth Cymru ystyried ariannu llai o gynlluniau
oherwydd y costau adeiladu uwch. Dywedodd swyddogion y byddai angen i
gynlluniau yn y dyfodol fod yn destun dadl economaidd gref er mwyn cael y cyfle
gorau posib o sicrhau cyllid.
Mynegodd yr aelodau bryderon yn benodol mewn perthynas â nifer y lleoedd ar
gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer Ysgol Llangatwg ac a yw
nifer y lleoedd yn ddigonol ar gyfer cynllunio yn y dyfodol? Mynegwyd pryderon
hefyd am y cynigion amlinellol i ddymchwel y rhan o'r ysgol a adeiladwyd ym
1929 a'r posibilrwydd o golli'r pwll nofio a ddefnyddir gan y gymuned.
Cadarnhaodd swyddogion fod lleoedd anghenion dysgu ychwanegol yn nifer o'r
cynigion. At hynny, bydd adroddiad ar yr eitem hon wrth ystyried cyllideb y
flwyddyn nesaf. O ran manylion unrhyw gynigion, ymgynghorir â'r cymunedau
perthnasol a rhoddir ystyriaeth ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni'r cynigion
o fewn y gymuned. Nid oes cynigion pendant ar gyfer datblygu ar hyn o bryd.
Yn dilyn craffu roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried
gan Fwrdd y Cabinet.
Adroddiad Arfarnu Opsiynau Cefn Coed
Rhoddodd aelod lleol yr ardal drosolwg byr o hanes y lofa a rhywfaint o
wybodaeth am gynnwys yr amgueddfa.
Hysbyswyd yr aelodau y byddai strategaeth wedi'i diweddaru yn cael ei
chyflwyno i'r pwyllgor yn y gwanwyn.
Nododd yr aelodau’r gwariant o £5.2m a amlinellwyd ym mhrif gynllun 2019 a
chynigiwyd grant o £2.7m. Holodd yr aelodau pa dystiolaeth neu strategaeth oedd
ar gael i gefnogi'r gwahaniaeth mewn cyllid. Dywedodd y swyddogion mai arian o
Gronfa Dreftadaeth y Loteri fyddai'r man cychwyn gyda ffynonellau cyllid
pellach i'w hystyried hefyd. Pe bai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, byddai'n
gweithio gydag ymgynghorydd i ystyried hyn yn fanwl.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried
gan y Cabinet.
Creu partneriaeth ranbarthol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch
corfforol yng ngorllewin Cymru
Dywedodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru yn annog ymagwedd ranbarthol
gydgysylltiedig at chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Nododd swyddogion y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno a fydd yn
amlinellu sut y byddai'r cwmni'n gweithredu'n gyfreithiol ac yn ariannol a bod
y Cyngor Chwaraeon yn fodlon â'r dull gweithredu.
Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y byddai chwaraeon llawr gwlad yn cael eu
cynnwys fel rhan o'r dull partneriaeth. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r
bartneriaeth yn darparu cymorth i ddatblygu ar lawr gwlad.
O ran ariannu’r bartneriaeth, mae’r Cyngor Chwaraeon wedi cynnig sicrwydd y
bydd penodiad uwch-swyddog ar gyfer y bartneriaeth a chymorth gweinyddol yn
cael ei ariannu’n llawn gan Chwaraeon Cymru ac ni fydd yn cael ei dynnu o
unrhyw arian grant a dderbynnir gan CBSCNPT.
Gofynnodd yr aelodau am gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y gall
clybiau chwaraeon wneud cysylltiadau a chymryd rhan yn y bartneriaeth unwaith y
bydd wedi'i ffurfio.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried
gan y Cabinet.