Cais
am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl (golwg, tirlunio, cynllun a
graddfa) mewn perthynas â'r cynllunio amlinellol, cyf. P2018/0493, a roddwyd ar
18/01/2022 am gyrchfan antur arfaethedig a fydd yn cynnwys 600 o
gabanau/fflatiau, gwesty â 100 o welyau gyda spa cysylltiedig, sgwâr canolog yn
cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden a siopau, gweithgareddau antur ac
adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon eithafol, gweithgareddau
alpaidd/sgïo a choedwig a Trax & Trail) bwytai ac adeiladau gweinyddol a
chynnal a chadw cysylltiedig, a pharcio ar gyfer tua 850 o geir, yn ogystal â
gweithrediadau tirlunio, draenio a pheirianneg cysylltiedig gan gynnwys
ailbroffilio tir, triniaeth ffin, adeileddau cynnal, goleuadau allanol a
theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Gan gynnwys
cyflwyno manylion dan amod 9 (lefelau), amod 10 (cynllun rheoli gwastraff),
amod 12 (deunyddiau), amod 17 (asesiad ynni), amod 18 (cynllun rheoli
amgylcheddol ar gyfer adeiladu strategol), amod 21 (cynllun strategol ar gyfer
rheoli'r dirwedd ac ecoleg), amod 25 (arolygon mawn), amod 26 (rheoli mawn),
amod 27 (draeniad), amod 28 (safleoedd nythu artiffisial), amod 34 (mannau
parcio ceir), amod 35 (mynediad i droedffordd/feiciau) ac amod 40 (cynllun goleuo)
Cofnodion:
Rhoddodd Swyddogion
gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ynghylch y cais hwn (Cais am gymeradwyaeth ar
gyfer materion a gadwyd yn ôl (golwg, tirlunio, cynllun a graddfa) mewn
perthynas â'r cynllunio amlinellol, cyf. P2018/0493, a roddwyd ar 18/01/2022 am
gyrchfan antur arfaethedig a fydd yn cynnwys 600 o gabanau/fflatiau, gwesty â
100 o welyau gyda spa cysylltiedig, sgwâr canolog yn cynnwys bwytai,
gweithgareddau hamdden a siopau, gweithgareddau antur ac adeiladau cysylltiedig
(gan gynnwys chwaraeon eithafol, gweithgareddau alpaidd/sgïo a choedwig a Trax
& Trail) bwytai ac adeiladau gweinyddol a chynnal a chadw cysylltiedig, a
pharcio ar gyfer tua 850 o geir, yn ogystal â gweithrediadau tirlunio, draenio
a pheirianneg cysylltiedig gan gynnwys ailbroffilio tir, triniaeth ffin,
adeileddau cynnal, goleuadau allanol a theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio
hawliau tramwy cyhoeddus. Gan gynnwys cyflwyno manylion dan amod 9 (lefelau),
amod 10 (cynllun rheoli gwastraff), amod 12 (deunyddiau), amod 17 (asesiad
ynni), amod 18 (cynllun rheoli amgylcheddol ar gyfer adeiladu strategol), amod
21 (cynllun strategol ar gyfer rheoli'r dirwedd ac ecoleg), amod 25 (arolygon
mawn), amod 26 (rheoli mawn), amod 27 (draeniad), amod 28 (safleoedd nythu
artiffisial), amod 34 (mannau parcio ceir), amod 35 (mynediad i
droedffordd/feiciau) ac amod 40 (cynllun goleuo). Ar dir ym Mhen-y-Bryn,
Croeserw, Y Cymer) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd aelodau'r
ward lleol yn bresennol i gyflwyno’u sylwadau yn y cyfarfod.
Yn unol â
phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy’r cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio
gan gynrychiolydd yr ymgeisydd.
Diolchwyd i'r
holl Swyddogion a fu'n ymwneud â'r cais cynllunio hwn am eu gwaith diwyd, a'u
hymrwymiad i ddarparu'r wybodaeth helaeth yr oedd ei hangen ar y Pwyllgor wrth
wneud penderfyniad ar y cais.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2022/00776, yn unol
ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau a gynhwyswyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: