Cofnodion:
Darllenodd
y Maer lythyr o ddiolch, a dderbyniwyd gan y Brenin Siarl III, wedi iddo
dderbyn cerdyn o gydymdeimlad, a anfonwyd gan y cyngor, yn dilyn marwolaeth y
Frenhines, EBH Elizabeth 11.
Rhoddwyd
diolch gan Arweinydd y Cyngor i'r staff yn adrannau Gofal Strydoedd a systemau
draenio y cyngor, a oedd wedi bod wrth law i helpu gyda'r llifogydd diweddar,
mewn ardaloedd amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol, ac ymestynnodd ei
gydymdeimlad รข'r preswylwyr yr effeithiwyd arnynt.