Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Perfformiad Chwarter 2
Adolygodd yr aelodau yr adroddiad Perfformiad
Chwarter 2, a gofynnwyd i Swyddogion egluro canlyniad PI.2.4, sy'n gysylltiedig
ag Amcan Lles 4. Cwestiynodd yr aelodau y ffigur isel o 22, yn erbyn y ffigur
targed o 45.
Rhoddodd y Swyddogion drosolwg o'r heriau a
wynebir, yn enwedig o ran cyllid. Trafodwyd y gostyngiad mewn cyllid Ewropeaidd
ynghyd â'r gronfa ffyniant gyffredin. Hysbyswyd yr aelodau hefyd o’r anawsterau
yn y prosesau ymgysylltu â theuluoedd ar ôl y pandemig. Dywedwyd wrth yr
aelodau fod Swyddogion yn awyddus i archwilio tactegau amgen wrth fynd i'r
afael â'r materion parhaus.
Diolchodd yr aelodau i'r Swyddogion am eu
hymdrechion parhaus a'r cynnydd roeddent wedi'i wneud wrth godi arian o fewn
cymunedau, a'r cynnydd mewn cynhyrchu incwm ar gyfer digwyddiadau parhaus mewn
lleoliadau penodol, gan gynnwys Orendy Margam a pharhad Priodasau.
Mae'r eitem agenda yn fater i'w fonitro a bydd yn
cael ei nodi.
Diogelu ym myd Addysg
Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn cynnwys
diweddariad ar ddiogelu plant o fewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Derbyniodd Swyddogion gwestiynau'n ymwneud â
digwyddiad hyfforddi, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2022. Gofynnodd yr aelod
cyfetholedig i'r Swyddogion gadarnhau bod y digwyddiad wedi mynd yn ei flaen a
gofynnodd am rywfaint o adborth o ran pethau cadarnhaol ac unrhyw bethau
negyddol a wynebwyd yn ystod y digwyddiad.
Cadarnhaodd Swyddogion fod y digwyddiad wedi mynd
yn ei flaen ar 28 Tachwedd 2022 a bod llawer wedi mynd iddo, a dywedodd bod
bron 50 o bobl yn y digwyddiad. Hysbyswyd yr aelodau fod ysgolion, yn dilyn y
digwyddiad, wedi gofyn am sesiwn hyfforddi'r hyfforddwr gyda'r gobaith o
gyflwyno'r hyfforddiant rhithiol yn gynharach. Cadarnhaodd Swyddogion hefyd fod
cyllid wedi'i sicrhau i redeg y digwyddiad hyfforddi'r hyfforddwyr.
Mae'r adroddiad yn fater i'w fonitro ac mae wedi’i
nodi.
Presenoldeb Disgyblion
Darparwyd diweddariad ar bresenoldeb disgyblion yn
Ysgolion Castell-nedd Port Talbot i'r aelodau, a materion penodol yn ymwneud
â'r cyd-destun hwn.
Dywedodd aelodau fod yr adroddiad yn un diddorol,
ond ei fod yn amlygu'r heriau wrth symud ymlaen o ran rhieni sy'n dewis addysgu
eu plant gartref. Cododd yr aelodau bryderon am ansawdd addysg gartref a'r
effaith ar gofrestru plant.
Trafodwyd y cynnig i gyflwyno bil addysg gartref ar
gyfer cofrestr bresenoldeb orfodol yn ysgolion Lloegr. Gofynnodd yr aelodau a
oedd y dull hwn wedi cael ei ystyried ar gyfer ysgolion CNPT.
Rhoddodd Swyddogion esboniad i'r Aelodau, gan
ddweud y byddai adroddiad yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel rhan o'r
flaenraglen waith. Byddai'r adroddiad yn cynnwys manylion am addysg gartref
dewisol. Aeth swyddogion ymlaen i gadarnhau bod ysgolion wedi gweld cynnydd yn
nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref. Diweddarwyd yr aelodau ar yr
arweiniad newydd sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd, a dywedodd y Swyddogion
fod cofrestrau presenoldeb disgyblion yn cael eu hystyried, ynghyd â ffurflenni
i nodi manylion ynghylch sut mae addysg gartref yn cael ei chyflwyno a pha
welliannau y gellir eu gwneud.
Cwestiynodd yr aelodau yr hysbysiadau cosb y mae
rhieni'n eu hwynebu am ddiffyg presenoldeb disgyblion, a pha ystyriaethau, os o
gwbl, oedd yn cael eu rhoi yn ystod amseroedd anodd parhaus, yn enwedig o ran
yr argyfwng costau byw.
Hysbyswyd yr aelodau fod ysgolion wedi cyhoeddi
llythyrau rhybudd o hysbysiadau cosb benodedig ond roedd hyn yn cael ei
ystyried yn ddewis olaf. Roedd ysgolion yn ymwybodol bod angen i blant a rhieni
addasu ar ôl y pandemig a'r rhaglenni dysgu cyfunol ychwanegol. Ymhelaethodd
Swyddogion ymhellach ar y budd o gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig fel dewis
arall yn lle erlyniad ac achosion llys. Unwaith eto amlinellwyd yr opsiwn hwn
fel mesur dewis olaf.
Hysbysodd Swyddogion yr aelodau ymhellach o’r
gwaith cydweithio sy'n cael ei wneud ar y cyd ag adrannau Cyfarwyddiaeth y
Gwasanaethau Cymdeithasol.