Cofnodion:
Croesawodd y
Cyng. S K Hunt bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i'r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd annerch yr Aelodau gyda chyngor ar benderfynu ymlaen
llaw.
Anerchodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr Aelodau.
Fel y
gwyddoch, mae adroddiad ar yr agenda heddiw ynghylch Cynllun Gwella Strategol
Ysgolion.
Mae'r cynnig
hwn yn benderfyniad newydd a ffres y bydd aelodau'n ei wneud, felly ni fydd y
ffaith eich bod efallai wedi pleidleisio mewn ffordd benodol mewn cyfarfod
blaenorol yn gyfystyr â phenderfynu ymlaen llaw, cyn belled â'ch bod yn cadw
meddwl gwirioneddol agored mewn perthynas â'r cyfarfod newydd hwn.
Fel y
gwyddoch, wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag unrhyw fusnes y cyngor,
rhaid i chi wneud hynny gyda meddwl agored ac ystyried yr holl wybodaeth o'ch
blaenau yn wrthrychol, gan roi sylw dyladwy i gyngor swyddogion. Yn ystod y
broses benderfynu, mae'n rhaid i chi ymddwyn yn deg ac er budd y cyhoedd. Mae
gofyn i chi wneud eich penderfyniadau ar sail y ffeithiau o'ch blaenau, ac ni
ddylech fod wedi gwneud penderfyniad cyn y cyfarfod.
Os ydych
chi'n ystyried eich bod chi wedi dod i farn neu benderfyniad sefydlog mewn
perthynas â’r mater hwn, ac nad oeddech yn gallu neu nad oeddech yn fodlon
ystyried unrhyw sylwadau neu gyngor arall, neu gall aelod o’r cyhoedd deimlo
wrth ystyried yr holl faterion fod risg yno, mae'n debygol y byddwch wedi
penderfynu ar y mater ymlaen llaw. Yn unol â hynny, os ydych chi'n teimlo eich
bod chi wedi rhagderfynu eich safbwynt, ni ddylech gymryd rhan mewn unrhyw
bleidlais. Gallai rhagderfynu annilysu'r penderfyniad a gallai arwain at ddwyn
achos yn erbyn y cyngor a gallai hefyd fod yn gyfystyr â thorri Côd Ymddygiad
yr Aelodau. Dyma’r cyfle i chi ddatgan hynny.
Mae gennych
hawl i gael barn ragarweiniol ar fater penodol cyn cyfarfod (a elwir fel arall
yn rhagdueddiad) cyn belled â'ch bod chi’n cadw meddwl agored a’ch bod chi'n
barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r pwyntiau a wnaed ynghylch y
mater dan sylw cyn dod i benderfyniad.
Dylid nodi
bod y penderfyniad dan sylw yn un i'r Aelodau benderfynu yn ei gylch.
Er mwyn
eglurder, roedd ymrwymiadau maniffesto a datganiadau polisi a oedd yn gyson â
pharodrwydd i ystyried a phwyso a mesur ffactorau perthnasol wrth wneud y
penderfyniad terfynol yn enghreifftiau o ragdueddiad dilys, nid rhagderfyniad.
Yn ogystal, mae barn a fynegwyd yn flaenorol ar faterion sy'n codi i'w
penderfynu yn y drefn arferol o ddigwyddiadau yn rhai arferol ar yr amod eich
bod yn gallu mynd i'r afael â'r penderfyniad penodol hwn gyda meddwl agored..