Cofnodion:
Nododd
yr Aelodau'r gwall yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, mewn perthynas â Thudalen
10. Roedd yn dweud "Mae hyn yn cynnwys £21 filiwn (neu fwy o
bosib)" a dylai fod wedi dweud £25 miliwn.
Penderfyniadau:
Ar
ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:
1. Bod cais am Borthladd Rhydd
sy'n cwmpasu porthladd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau a'r ardaloedd
amgylchynol, yn y ffurflen sy'n atodedig yn Atodiad B o'r adroddiad a
ddosbarthwyd, yn amodol ar unrhyw amrywiadau a all fod yn angenrheidiol cyn
iddi gael ei gyflwyno, yn cael ei gymeradwyo.
2. Bod y Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar
ddiwygiadau i'r cais cyn ei gyflwyno'n derfynol i Lywodraeth Cymru.
3. Bod yr enwebiad i Gyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fod yn gorff cyfrifol ar gyfer y
fframwaith arfaethedig, yn cael ei gymeradwyo.
4. Bod Arweinydd y Cyngor yn
cyflwyno llythyr i Lywodraeth Cymru sy'n cyfleu cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Porthladd Rhydd sy'n cwmpasu porthladd
Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau.
5. Bod y Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad â'r Arweinydd yn cymryd camau yn ôl yr angen i hyrwyddo'r cais ar
ôl ei gyflwyno hyd at yr adeg y ceir penderfyniad y Gweinidogion ar lwyddiant y
cais neu fel arall.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Gallai cyflawni statws Porthladd Rhydd weithredu
fel catalydd ar gyfer twf economaidd sylweddol yn yr ardal a'r rhanbarth
ehangach sy'n gysylltiedig â'r sector ffermydd gwynt ar y môr sy'n dod i'r
amlwg a'r agenda ynni adenwyddadwy ehangach.
Bydd y cynnig hefyd yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant, tai
a thrafnidiaeth yn lleol ac yn rhanbarthol gan helpu i gyrraedd targedau carbon
sero net. Bydd twf economaidd gwyrdd yn
helpu i fynd i'r afael â materion strwythurol tlodi ac amddifadedd yn yr
economi leol a rhanbarthol gan ysgogi'r gadwyn gyflenwi leol a chynyddu sgiliau
a chymwysterau'r boblogaeth breswyl.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.
Dogfennau ategol: