Cofnodion:
Amlinellodd yr adroddiad a ddosbarthwyd y newidiadau arfaethedig i
Gydnabyddiaeth Aelodau a gynhwyswyd yn Adroddiad Blynyddol Drafft Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2023/24.
Nododd aelodau'r cynnydd arfaethedig i gyflogau ac nid oedd unrhyw
newidiadau arfaethedig eraill i feysydd megis salwch, teithio, gofal etc.
Roedd aelodau wedi nodi a chymeradwyo'r ymateb drafft i'r ymgynghoriad
ar gyfer y cwestiynau a benderfynwyd arnynt a chadarnhawyd y byddai'r Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd yn ymateb i IRPW mewn ymateb ffurfiol i'r
ymgynghoriad.
Nodwyd bod hefyd cwmpas i aelodau unigol a/neu grwpiau gwleidyddol
wneud cyflwyniadau i'r panel a hefyd dosbarthwyd y ddolen i'r holl aelodau.
PENDERFYNWYD:
1.
Bydd aelodau'n nodi'r Adroddiad Blynyddol drafft
a'r penderfyniadau arfaethedig ar gyfer 2023/24.
2.
Cymeradwyo a chyflwyno'r ymateb i gwestiynai'r
ymgynghoriad y penderfynwyd arnynt a nodwyd yn yr adroddiad.
3.
Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn
paratoi ymateb y cyngor ar ran y Pwyllgor.