Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Sefydlu Fframwaith Cyfrifon a Reolir a
Chefnogi'r Gyflogres
Darparwyd adroddiad i'r
Pwyllgor a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd â phroses i sefydlu
Fframwaith o ddarparwyr cymeradwy, a fyddai'n gallu cefnogi derbynyddion
Taliadau Uniongyrchol yn briodol drwy weithgarwch Cyfrifon a Reolir a’r
Gyflogres.
Gofynnodd yr Aelodau beth oedd
yr amser aros presennol i newid cyfrifon o daliadau a reolir i daliadau
uniongyrchol, neu i'r gwrthwyneb. Cadarnhawyd mai ychydig iawn o amser y mae
hyn yn ei gymryd ac nad oedd yn broblem i swyddogion o fewn y Gyfarwyddiaeth.
Soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y broblem gyda thaliadau
uniongyrchol yn ymwneud â chael Cynorthwyydd Personol (PA).
Gofynnwyd i swyddogion
ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'r amserau aros presennol am asesiadau ar
gyfer taliadau uniongyrchol, a pha mor hir y mae'n ei gymryd i ddod o hyd i CP
a'i baru â defnyddiwr gwasanaeth. Nodwyd bod y gwasanaeth yn cyflawni'r
asesiadau'n brydlon, ond roedd yn anodd darparu amserlen bendant o'r amserau
aros. Hysbyswyd y Pwyllgor fod problem wrth geisio dod o hyd i CPau yn y lle
cyntaf; roedd y sefyllfa’r un peth ar draws pob math o ofal, gan gynnwys gofal
preswyl a gofal cartref. Ychwanegwyd bod rhan o'r oedi, os oedd oedi, yn
ymwneud â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), rhoi hyfforddiant ar
waith a lle’r oedd angen yswiriant.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet
Caffael Fframwaith Gofal
Cartref Arbenigol
Cyflwynodd y swyddogion
adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried rhoi cymeradwyaeth i ymgymryd â'r broses
o sefydlu Fframwaith o ddarparwyr gofal cartref, a fyddai'n gallu darparu gofal
cartref arbenigol yn briodol, a defnyddio'r Fframwaith hwn i brynu pecynnau
gofal cartref arbenigol unigol.
Amlygodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd y bydd y fframwaith hwn yn cynnwys darparu gofal iechyd meddwl;
gofynnodd yr Aelodau a oedd hyn yn cynnwys y rheini â dementia. Esboniodd
swyddogion fod gan y Gyfarwyddiaeth fframwaith arferol a oedd eisoes ar waith
ar gyfer y grŵp oedran hŷn (dros 65 oed); defnyddiwyd y fframwaith
hwn ar gyfer yr unigolion yn y grŵp oedran hwn a chanddynt eiddilwch sy'n
gysylltiedig ag oedran, dementia a/neu anableddau.
Hysbyswyd yr Aelodau fod yr
adroddiad o'u blaenau mewn perthynas â fframwaith arbenigol ychwanegol a
fyddai'n berthnasol i grwpiau oedran gweithio, a phlant a phobl ifanc; bydd y
fframwaith hwn yn cynorthwyo'r rheini ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl, yn
ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau plant a phobl ifanc.
Manylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod nifer yr oedolion ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal
cartref arbenigol yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd yn gymharol isel;
holodd yr Aelodau pam fod y niferoedd mor isel, a gofynnwyd a fyddai'r casgliad
data ar ofal cartref yn gwella yn y dyfodol. Eglurodd swyddogion fod nifer bach
o bobl ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl sy'n derbyn gofal cartref yn eu
cartrefi eu hunain ar hyn o bryd; mae llawer o bobl ag anableddau dysgu ac iechyd
meddwl yn byw mewn llety byw â chymorth neu gartrefi gofal arbenigol, felly
doedd y galw am ofal arbenigol yn y cartref ddim mor uchel.
Yn ogystal â’r uchod, soniwyd
y byddai opsiynau ehangach ar gael i unigolion drwy ddatblygu'r fframwaith.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod ar hyn o bryd yn ceisio cefnogi a
galluogi pobl i fyw ar eu pennau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain gyda phecyn
gofal yn y cartref; mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gwaith arall roedd swyddogion
yn mynd i'w wneud i hyrwyddo annibyniaeth.
Dywedodd swyddogion, pe bai'r
fframwaith arbenigol yn ei le, y byddent yn gallu cael data gwell gan y
byddai'r pecynnau'n mynd drwy'r fframwaith, a fyddai'n galluogi iddynt gasglu
mwy o ddata.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Cynyddu ffïoedd cartrefi gofal
i bobl hŷn
Darparwyd adroddiad mewn
perthynas â chynyddu ffïoedd er mwyn cefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau
cartrefi gofal pobl hŷn yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffi
gynyddol o £30 y pen, yr wythnos, a gofynnwyd a oedd swyddogion yn disgwyl i
hyn newid oherwydd yr argyfwng costau byw presennol.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai eu bod yn rhagweld y bydd angen
cynyddu'r ffïoedd yn y dyfodol; bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr ychydig
fisoedd nesaf o ran yr argyfwng costau byw, ond roedd swyddogion yn parhau i
adolygu hyn. Ychwanegwyd mai'r adroddiad hwn oedd y cam cyntaf mewn rhaglen
cynyddu y bydd angen ei rhoi ar waith dros y blynyddoedd nesaf.
Darparwyd eglurder pellach gan
fod y ffi gynyddol a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer y
flwyddyn ariannol bresennol. Nodwyd bod swyddogion wedi cynnal ymarfer i edrych
ar lefelau'r ffioedd am y flwyddyn ariannol hon; fodd bynnag o ddechrau Ebrill
2022 hyd nawr, bu llawer o ffactorau na ellid fod wedi'u rhagweld, sydd wedi
effeithio'n uniongyrchol ar ddichonoldeb ariannol cartrefi gofal. Yn dilyn hyn,
eglurwyd bod swyddogion wedi ymgymryd â darn manwl o waith gyda'r sector
cartrefi gofal er mwyn adolygu'r pwysau ariannol yr oeddent yn eu hwynebu;
nodwyd bod angen £30 yn ychwanegol arnynt y flwyddyn ariannol hon i fod yn
ddichonadwy. Ychwanegodd swyddogion eu bod yn ceisio nodi’r ffïoedd y dylid eu
codi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf sef 2023/24 ar hyn o bryd; o ystyried y
chwyddiant presennol, maen nhw'n disgwyl y bydd codiad sylweddol y flwyddyn
ariannol nesaf.
Cyfeiriwyd at y ffïoedd
presennol a dalwyd i gartrefi gofal pobl hŷn; gofynnodd yr Aelodau am y
gwahaniaeth bach rhwng yr hyn a dalwyd ar hyn o bryd i gartrefi gofal preswyl,
a'r hyn a dalwyd ar hyn o bryd i gartrefi gofal nyrsio, o ystyried y
gwahaniaeth yn y math o waith y maent yn ei wneud. Eglurodd swyddogion mai'r
swm sydd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd oedd y ffi y byddai'r cyngor yn ei
thalu i gartrefi nyrsio; roedd hefyd ffi Ariannu Gofal Nyrsio (FNC) y mae'r
Bwrdd Iechyd yn talu amdani, ar ben y swm a ddarperir gan y cyngor. Daethpwyd
i'r casgliad bod y ffi gyffredinol am daliad cartref nyrsio yn uwch na'r swm
hwnnw a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; gan ei fod ond yn manylu ar y
ffi gynyddol a'r swm y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfrannu.
Cafwyd trafodaeth fer am y
ffïoedd y mae teuluoedd yn eu talu tuag at gartrefi gofal, a beth fyddai'n
digwydd pe na bai teulu mewn sefyllfa i dalu'r taliadau ychwanegol wrth symud
ymlaen. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion y cyfeirir at hyn fel
taliad atodol drwy drydydd parti; roedd y rhan fwyaf o gartrefi gofal bellach yn
codi ffi atodol, gyda'r cyfartaledd tua £65. Eglurwyd bod hyn o ganlyniad i
gartrefi gofal yn honni nad oeddent yn cael eu talu ddigon i dalu'r costau; os
nad oedd teuluoedd yn gallu fforddio talu hyn, a phan roedd y gwasanaeth yn
atgyfeirio pobl i gartrefi gofal, roedd y cyngor yn talu'r ffi atodol.
Hysbyswyd yr Aelodau y gallai cynyddu ffïoedd helpu i symud i ffwrdd o'r ffi
atodol; O'r herwydd, ni fyddai'n rhaid i deuluoedd gyfrannu'n ariannol tuag at
y cartref gofal.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.