Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Gyfalaf 2022/23 - yn ôl diwedd mis Medi 2022
Derbyniodd yr
aelodau wybodaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Gyfalaf 2022/23.
Holodd yr aelodau
ynghylch llinellau’r gyllideb yn atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd sydd â
gwariant o 0 ar hyn o bryd. Roedd aelodau am gael sicrwydd ynghylch gwariant yr
arian hynny. Roedd gan yr aelodau ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o
wybodaeth ynghylch y gyllideb mewn perthynas ag 'Adfywio: Tasglu'r Cymoedd'.
Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddent yn casglu gwybodaeth y tu allan
i'r cyfarfod ac yn siarad â'r swyddogion perthnasol er mwyn darparu ymateb i'r
aelodau.
Yn dilyn craffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Refeniw 2022/2023 - yn ôl diwedd mis Medi 2022
Rhoddwyd gwybodaeth
i'r aelodau mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb refeniw ragamcanol y cyngor.
Trafodwyd y
dyfarniad cyflog ar gyfer 2022/23 a holodd yr aelodau ynghylch yr effaith y
gallai'r dyfarniad cyflog ei chael ar ysgolion. Gofynnwyd a fyddai ysgolion yn
gallu talu'r 1% oherwydd bod y dyfarniad cyflog a ragwelir yn 5% ac mae setliad llywodraeth Cymru yn caniatáu ar
gyfer 4% yn unig. Eglurodd swyddogion y byddai'r Cyngor yn dyrannu 4% i'r
dyfarniad cyflog gan mai dyma'r hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith, oherwydd y dyfarniad cyflog a'r costau ychwanegol,
efallai y bydd angen i ysgolion ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu
gwarged o 2 filiwn. Nid oedd swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ysgolion a all
fod mewn ddiffyg oherwydd y dyfarniad cyflog hwn, ond cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn casglu dadansoddiad ac yn ei rannu gydag aelodau.
Rhannodd aelodau
eu pryderon ynghylch y diffyg posib o 2 filiwn a’r defnydd o’u cronfeydd wrth
gefn. Nodwyd y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â chyllideb rhai
ysgolion yn sicr yn cael effaith andwyol ar y rheini sydd â chyllideb fwy o
gymharu ag ysgolion llai. Gofynnwyd bod gwybodaeth yn cael ei darparu am yr
effaith y bydd y gost ychwanegol o 1% mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog yn ei
chael ar ysgolion cynradd ac uwchradd sydd ar gynlluniau adfer sy'n seiliedig
ar ddiffygion wrth symud ymlaen. Gofynnwyd hefyd i'r wybodaeth hon gael ei
dosbarthu i'r pwyllgor a'i throsglwyddo i'r Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar
Addysg, Sgiliau a Lles i'w hystyried.
Holodd yr aelodau
ynghylch y costau ar gyfer cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer yr holl blant
y derbyn mewn ysgolion cynradd. Nodwyd bod costau bwyd ac ynni wedi cynyddu a
gofynnwyd a fyddai effaith ar y gyllideb, ynghyd â Llywodraeth Cymru'n
adolygu'r gyfradd fesul pryd i sicrhau bod cyllid yn sylweddol. Cadarnhaodd
swyddogion y bydden nhw'n casglu ffigurau a gwybodaeth bellach y tu allan i'r
cyfarfod.
Yn dilyn Craffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet
Cynllun
Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2027/2028
Rhoddwyd y
diweddaraf am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2023/24 i 2027/28 i
aelodau, yn seiliedig ar ragdybiaethau modelu cyfredol cyn llunio cynigion
manwl strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023/24 yn ystod yr hydref a'r gaeaf, fel
y nodir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Hysbysodd y Prif
Weithredwr yr aelodau am yr heriau sydd ar ddod a'r ansicrwydd ynghylch y
setliad posib wrth bennu’r gyllideb.
Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch trawsnewid adeiladau ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Croesawodd yr aelodau'r ymagwedd hon o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol
ynghylch prisiau ynni. Amlygodd y Prif Weithredwr fod cyfeiriad clir o ran
gwneud mesurau economaidd effeithlon fel diffodd goleuadau mewn ystafelloedd
nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn adeiladau dinesig. Nodwyd hefyd fod
trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch faint o adeiladau y byddai angen eu cadw
yn y portffolio. Amlygwyd bod lefel y presenoldeb yn yr adeiladau’n tua 20% ar
hyn o bryd ac roedd swyddogion yn ystyried opsiynau wrth ail-bwrpasu'r
adeiladau i sicrhau bod arbedion priodol yn cael eu gwneud.
Yn dilyn craffu,
cytunwyd i nodi'r adroddiad.
Adolygiad
Strategaeth Hybu'r Gymraeg
Rhoddwyd gwybod i
aelodau am y trefniadau arfaethedig i adolygu Strategaeth Hybu'r Gymraeg.
Tynnodd aelodau
sylw at fanteision grŵp Tasg a Gorffen blaenorol y Strategaeth Hybu'r
Gymraeg. Croesawodd yr aelodau'r ymagwedd at ailsefydlu'r Grŵp Tasg a
Gorffen hwn er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru ymhellach wrth gyrraedd targedau
i hybu'r Gymraeg a'r strategaeth.
Gofynnwyd sut y
byddai'r grŵp yn cael ei greu. Nodwyd, pe bai'r Cabinet yn ystyried
cymeradwyo'r argymhelliad, rhoddir awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
drefnu a hwyluso sefydlu'r grŵp Tasg a Gorffen.
Yn dilyn craffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet