Agenda item

Rhif y Cais P2022/0470 - Tir yn Ffordd Baglan

Erection of an industrial unit (use class B2) (GIA 25,545sqm) with associated works including sustainable drainage, car parking, cycle storage and landscaping.

 

At Land at Baglan Way, Neath Port Talbot.

Cofnodion:

Darparodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Adeiladu uned ddiwydiannol (dosbarth defnydd B2) (AMG 25,545 metr sgwâr) gyda gwaith cysylltiedig gan gynnwys draenio cynaliadwy, meysydd parcio, storfa feiciau a gwaith tirlunio ar dir yn Ffordd Baglan, Castell-nedd Port Talbot) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr Aelodau Ward Lleol wedi gofyn am i’r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor ac roeddent yn bresennol i roi eu sylwadau yn y cyfarfod.

 

Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy’r cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan gynrychiolydd yr ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2022/0470, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. a’r amod ychwanegol a gynigiwyd ac a gytunwyd gan y Pwyllgor Cynllunio, fel y nodir isod:

 

23. Er gwaethaf y Cynllun Teithio a gyflwynwyd, 12 mis ers defnydd llesiannol cyntaf y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn, caiff Cynllun Teithio diweddaredig ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y Cynllun Teithio diwygiedig yn cynnwys manylion penodi Cydlynydd Cynllun Teithio, ac yn ogystal â mynd i’r afael â’r dulliau o annog staff i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy a lleihau’r galw ar drafnidiaeth breifat, dylai’r cynllun gynnwys manylion ynghylch sut y gellid defnyddio trafnidiaeth y datblygiadau i annog staff ac ymwelwyr â’r safle i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a defnyddio opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, fel beicio, cerdded neu rannu ceir. Dylai’r cynllun hefyd gynnwys cynllun/amserlen fonitro fanwl, a fydd yn cynnwys adolygiadau rheolaidd ar gyfer y cyfnod cychwynnol o bum mlynedd, ynghyd â manylion ynghylch cyflwyno a chymeradwyo Cynlluniau Teithio diweddaredig dilynol bob pum mlynedd ar gyfer cyfnod gweithredu’r datblygiad, a fydd yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd wedi methu lleihau’r defnydd o’r car a chyrraedd y targedau y cytunwyd arnynt a nodwyd yn y cynllun teithio. Bydd yr holl fesurau a nodir mewn unrhyw Gynllun Teithio cymeradwy sy'n ofynnol gan y cynllun yn cael eu rhoi ar waith o fewn tri mis ar ôl ei gymeradwyo. 

 

 

Rheswm:

           Er mwyn hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ac i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi SP20 Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot.

 

Dogfennau ategol: