Agenda item

Rhif y Cais P2021/0856 - Eagle House

The demolition of the existing 2 storey office building and the construction of 18 affordable housing apartments on upper floors with office/commercial units at ground floor and associated external works and parking area.

 

At Eagle House 2 Talbot Road Port Talbot SA13 1DH.

Cofnodion:

Darparodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (dymchwel y swyddfa ddeulawr bresennol, ac adeiladu 18 o fflatiau tai fforddiadwy ar y lloriau uchaf gydag unedau swyddfa/masnachol ar y llawr gwaelod a gwaith allanol cysylltiedig ac ardal barcio yn Eagle House, 2 Heol Talbot, Port Talbot SA13 1DH) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr Aelodau Ward Lleol a'r Aelod Lleol dros Ddwyrain Sandfields i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio, ac roeddent yn bresennol i roi eu sylwadau yn y cyfarfod.

 

Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy’r cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan gynrychiolydd yr ymgeisydd, a dilynwyd hyn gan wrthwynebydd.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2021/0856, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau ac ar lofnodi Cytundeb Adran 106 a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

 

Dogfennau ategol: