Cofnodion:
Cynigwyd y byddai ymweliad safle yn cael ei drefnu
ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio ar 20 Hydref 2022; mewn perthynas â Chais
Cynllunio P2022/0776 i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl ar gyfer y cyrchfan
antur y mae Wildfox yn bwriadu’i sefydlu, ar dir ym Mhen-y-bryn,
Croeserw, y Cymer
PENDERFYNWYD:
Trefnu ymweliad safle â Wildfox, ar dir ym Mhen-y-bryn, Croeserw, y
Cymer.