· Dethol eitemau
priodol o is-agenda (Polisi
ac Adnoddau) y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir is adroddiadau’r Cabinet ar gyfer yr Aelodau
Craffu)
Cofnodion:
Adroddiad Blynyddol 2021-2022 Cynllun Cydraddoldeb
Strategol 2020-2024
Derbyniodd yr aelodau Adroddiad Blynyddol y Cynllun
Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2021-2022 i'w ystyried cyn ei gyhoeddi
yn unol â gofynion statudol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Holodd yr Aelodau am ganlyniad y tri Archwiliad
Mewnol a gwblhawyd mewn perthynas â'r Asesiadau Effaith Integredig. Gofynnwyd
pa hyfforddiant oedd yn mynd i gael ei ddarparu, beth oedd y materion blaenorol
gydag asesiadau effaith integredig a oedd wedi arwain at hyfforddiant pellach
ac a fyddai angen hyfforddiant ar aelodau. Eglurodd swyddogion fod hyfforddiant
wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno i swyddogion yn ystod yr ychydig wythnosau
diwethaf ac y byddai aelodau'n derbyn hyfforddiant yn eu rôl benodol o fewn
asesiadau effaith integredig. Nodwyd mai’r pryder yn bennaf oedd cwblhau
Asesiadau Effaith Integredig mewn modd amserol.
Tynnodd y pwyllgor sylw at yr wybodaeth gan Estyn
mewn perthynas ag Aflonyddu Rhywiol mewn Ysgolion. Roedd yr aelodau'n deall bod
y cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd yn ymdrin â'r pwnc hwn mewn sesiynau
hyfforddi. Fodd bynnag, nododd yr aelodau fod y pryder o ran cydraddoldeb a
blaengynllunio mewn perthynas â'r ysgolion uwchradd. Gofynnodd y Pwyllgor felly
i’r Cadeirydd Addysg, Sgiliau a Lles sicrhau bod y Pwyllgor yn ystyried sut yr
eir i'r afael â'r mater hwn mewn ysgolion uwchradd.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet
Adroddiad Blynyddol Strategaeth Hybu'r Gymraeg
2021-2022
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Strategaeth Hybu'r
Gymraeg ar gyfer 2021-2022 i'r Aelodau, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Trafodwyd bod bwriad o fewn y strategaeth i
gynhyrchu rhestr o eiriau/ymadroddion i'w defnyddio mewn cyfarfodydd gan y
di-Gymraeg i annog y defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd/ymadroddion. Fodd
bynnag, teimlwyd bod hyn wedi datblygu’n organig dros amser, gan leihau’r angen
uniongyrchol am restr ‘swyddogol’. Nodwyd y byddai hyn yn ddefnyddiol i aelodau
a gofynnwyd i restr gael ei chynhyrchu a'i nodi yn nodiadau briffio'r
Cadeirydd.
Awgrymodd yr aelodau, wrth adolygu'r strategaeth
sydd i ddod, y dylid gwahaniaethu'n glir rhwng rolau a chyfrifoldebau o fewn yr
awdurdod a chyda'r partneriaid.
Trafodwyd amserlen adrodd y Strategaeth. Nodwyd nad
oes unrhyw beth wedi'i nodi yn Safonau’r Gymraeg o ran y cyfnodau adrodd, maen nhw
ond yn datgan bod cynllun strategol 5 mlynedd i’w gynhyrchu a’i gyhoeddi. Fodd
bynnag, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi blaenoriaethu darparu
adroddiadau blynyddol sy'n cyd-fynd â therfynau amser corfforaethol eraill.
Holodd yr aelodau ynghylch pwynt 1.2.3 'Ystyried
effeithiau datblygiadau tai newydd ar dwf addysg Gymraeg neu'r effaith ar
gymunedau lle siaredir Cymraeg', yn y strategaeth gan holi ynghylch y cynnydd.
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai angen iddynt drafod â'r swyddog perthnasol a
darparu ymateb y tu allan i'r cyfarfod.
Holwyd hefyd ynghylch pwynt 3.1.6 'Sicrhau bod y
gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng Nghwm Tawe yn gyfyngedig, gyda
chynllun gweithredu wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer yr ardal a gweithio ochr
yn ochr â Thŷ’r Gwrhyd i effeithio’n strategol ar yr ardal.' Nodwyd mai
ychydig o gynnydd a wnaed ar hyn a gofynnwyd beth oedd y rhesymeg dros yr
ychydig gynnydd a wnaed. Cadarnhaodd y
swyddogion y byddent yn casglu ymateb gan y Fforwm Iaith sy'n gyfrifol am hynny.
Byddai'r ymateb yn cael ei gylchredeg i'r pwyllgor.
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r aelodau'n cael
cyfle i ail-edrych ar y strategaeth gan y byddai cyfnod adolygu.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.