Agenda item

Hysbysiad o Gynnig o dan Adran 10 o Ran 4 (Rheolau Gweithdrefnau) Cyfansoddiad y Cyngor

Hysbysiad o Gynnig ar Argyfwng Hinsawdd

 

Cofnodion:

Galwodd y Maer ar y Cynghorydd Goldup-John i gyflwyno ei gynnig a roddwyd gerbron y cyngor heddiw ar yr "Argyfwng Hinsawdd".

 

Anerchodd y Cynghorydd Goldup-John y cyngor:

 

"Diolch i'r cyngor am glywed y cynnig hwn heddiw.  Dylai datgan yr Argyfwng Hinsawdd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot cyfan, beth bynnag fo'i blaid, fod yn rhywbeth rydym i gyd yn ei groesawu.

 

Gellir gweld effeithiau newid hinsawdd eisoes ledled y byd gyda chorwyntoedd mwy dwys ac amlach yn America, llifogydd difrifol ym Mhacistan a sychder sy'n ddigon i'ch sobri yn Tsieina nad ydym wedi'u gweld ers cenedlaethau, os o gwbl.  Yn lleol, rydym wedi gweld llifogydd torcalonnus yn fy nhref enedigol, Sgiwen.  Hefyd, drwy'r fwrdeistref yn Aberdulais, Ystalyfera a Phort Talbot i enwi ond rhai. Ychwanegodd y tywydd poeth, a dorrodd bob record ym mis Gorffennaf eleni, bwysau ychwanegol ar breswylwyr lleol ynghyd â stormydd dinistriol sydd wedi arwain at ffocws rhanbarthol gwell ar waith yn ymwneud ag amddiffynfeydd môr ledled y fwrdeistref.  Mae'r effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar garreg y drws yn niweidiol i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot ac mae'n bryd ein bod yn mynnu newid.  Nid ar gyfer ein cenhedlaeth ni'n unig, ond ar gyfer ein plant a'n hwyrion a phawb sy'n dilyn.  Mae'r cloc yn tician o ran tanwyddau ffosil felly gadewch i ni beidio â bod yn ffyliaid sy'n gorffwys ar ddiffyg gweithredu eraill ond yn hytrach yn gwella a dilyn trywydd adnewyddadwy i Gastell-nedd Port Talbot. Felly, rwy'n cynnig yr hysbysiad o gynnig hwn i'r cyngor heddiw i ddatgan argyfwng hinsawdd.   

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn datgan argyfwng hinsawdd, ac yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud yr un peth.

 

·    I alw ar Lywodraethau'r DU a Chymru i roi'r pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i ni i sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.

 

·    Rhoi cyhoeddusrwydd i'r argyfwng hinsawdd a hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o wirionedd newid yn yr hinsawdd ymhlith y boblogaeth leol.

 

·    Gweithio gydag arbenigwyr perthnasol yn y meysydd ymchwil a datblygu i:

 

Ø Adolygu'n strategaethau a'n cynlluniau gweithredu cyfredol ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;

Ø Nodi unrhyw newidiadau polisi neu gamau gweithredu pellach y gallem eu cyflawni, o fewn cwmpas ein pwerau a'n hadnoddau, i ateb her argyfwng hinsawdd;

Ø Ceisio cymorth partneriaid lleol a chyrff ymchwil eraill i esbonio'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo a'r cyflawniadau a wnaed eisoes  i'r gymuned, yn ogystal â thargedau ar gyfer y dyfodol.

 

·    I ddiweddaru ar waith pellach a wnaed gan y cyngor yn y maes hwn yn flynyddol drwy adran amcanion lles corfforaethol Adroddiad Blynyddol o Berfformiad y cyngor.  Gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a'n treftadaeth leol. “

 

Ymatebodd y Cynghorydd J Hurley, Aelod y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Lles, gan dynnu sylw at y ffaith:

 

bod y Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy wedi'i chyhoeddi ym mis Ebrill 2019.  Wedi'i wreiddio yn hynny roedd Cynllun Gweithredu, ers y cyfnod hwnnw mae'r cyngor wedi comisiynu dadansoddiad o'r bylchau i nodi meysydd y strategaeth y mae angen gwaith pellach arnynt. Rhoddodd y dadansoddiad hwn fap llwybr i ni i'r cyngor symud ymlaen i leihau ei ôl troed carbon i bwynt lle gellir ei ddileu. Amlygwyd na ellir gwneud hyn ar wahân, i gyflawni hyn mae'n rhaid i'r cyngor weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cyhoeddus eraill, y trydydd sector, sefydliadau preifat ac fel Cynghorwyr gyda chymunedau a phreswylwyr.

 

Mynegwyd pryder gan rai Aelodau ynghylch pa effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar lo arbennig o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn ogystal, codwyd ymholiad ynghylch a fyddai'r prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif a ddatblygwyd i fanyleb Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net yn dal i gael ei gyflawni pe bai'r cyngor yn symud i gael ysgolion llai yn hytrach nag un ysgol fawr? Hefyd, sut byddai'r cyngor yn ariannu'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni carbon sero net? Cafwyd trafodaeth bellach ar ba fuddsoddiad pellach oedd ar y gweill i gefnogi'r cyngor i gyflawni sero net.

 

Eglurwyd bod y cyngor yn mynd ar drywydd nifer o brosiectau, yr ydym yn arwain ar un ohonynt ym mhrosiect y Fargen Ddinesig, a elwir yn Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. Mae'r cyngor wedi adeiladu adeilad ynni-gadarnhaol ym Mharc Ynni Baglan a hwn oedd y cyntaf o'i fath yn y DU ac enillodd y Wobr Rhagoriaeth Adeiladu. Mae'r adeilad yn cefnogi anghenion ynni'r adeilad ond mae hefyd yn allforio ynni i'r grid cenedlaethol sy'n cael ei droi'n hydrogen. Roedd y cyngor hefyd yn gweithio gyda'r prifysgolion yn yr ardal ac yn aelod o glwstwr Ardaloedd Diwydiannol De Cymru a FLEXIS. Mae'r sefydliadau hynny'n gweithio gyda ni a chyda phleidiau eraill i geisio gwella pa mor gyflym yr ydym yn trosglwyddo i fyd carbon sero net.

 

Derbyniodd yr Aelodau eglurhad hefyd fod llifogydd Sgiwen yn destun achos cyfreithiol gyda'r Bwrdd Glo Cenedlaethol ar hyn o bryd.

 

Cytunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd S K Hunt, i ymateb i'r pryderon a godwyd yng nghyfarfod y cyngor, o ran yr ymholiadau ar gostau'r cynnig, yn ysgrifenedig o fewn amserlen briodol.

 

 

PENDERFYNWYD:

Mabwysiadu'r cynnig "Argyfwng Hinsawdd".

 

 

 

Dogfennau ategol: