Cofnodion:
Er
mawr ofid iddo, dywedodd y Maer wrth y cyngor am farwolaeth ddiweddar Sally Ann
Reynolds (Harper gynt), merch y cyn-Ddirprwy Arweinydd, y Cynghorydd L Harper,
a nith Arweinydd presennol y Cyngor, S K Hunt.
Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng nghyfarfod y cyngor.
Ymunodd
y cyngor â'r Maer i longyfarch holl athletwyr
a swyddogion Cymru a fu'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn ddiweddar:
Ar
gyfer Athletau: Joe Brier a Hannah Brier
Ar
gyfer Paffio: Zoe Andrews
Ar
gyfer Bowlio Lawnt: Laura Daniels a Julie Thomas
Ar
gyfer Rygbi Saith-bob-ochr: Callum Carson
Ar
gyfer Nofio: Daniel Jervis
Ar
gyfer Treiathlon: Iestyn Harret
A’r
swyddogion:
Mark
Adams, Chris Jones ac Alison Harris
Hefyd,
gwahoddodd y Maer yr athletwyr a'r swyddogion hynny i dderbyniad maerol i dalu
teyrnged i'w cyflawniadau.