Cofnodion:
Cyflwynwyd copi drafft o'r Polisi Cyfarfodydd
Aml-leoliad, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Holodd yr aelodau ynghylch y gofyniad i gamerâu
gael eu troi ymlaen pan fo aelodau'n siarad o bell. Dywedodd y swyddogion fod y
gofyniad i aelodau gael 'eu clywed a'u gweld' yn rhan o'r ddeddfwriaeth
gyfredol mewn perthynas â gweithio hybrid.
Penderfynwyd:Nodi darpariaethau'r Polisi Cyfarfodydd
Aml-leoliad drafft a nodir yn Atodiad A a darparu sylwadau fel y bo'n briodol.
Dirprwyo awdurdod
i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd i
baratoi a chyflwyno fersiwn derfynol y Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad i'w gymeradwyo.
Dogfennau ategol: