Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddogion yr Adroddiad
Diweddaru Archwilio Mewnol a oedd yn cynnwys manylion am y gwaith a wnaed ers
cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; roedd hwn yn adroddiad
chwarterol a oedd yn hysbysu Aelodau o'r sefyllfa bresennol a'r hyn a gwblhawyd
ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys manylion yr archwiliadau a gynhaliwyd a'u
graddfeydd sicrwydd.
Roedd un o'r prif bwyntiau a
amlygwyd mewn perthynas â phroblemau staffio; ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd lefel uchel iawn o salwch wedi
effeithio ar y tîm eto, gyda dau aelod o staff ar salwch tymor hir. Fodd
bynnag, soniwyd bod y salwch yn cael ei reoli’n unol â pholisïau a
gweithdrefnau'r cyngor.
Problem staffio arall a godwyd oedd y broblem hirsefydlog o ran swyddi
Archwilwyr Cynorthwyol. Nodwyd ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer y swyddi hyn
yn draddodiadol, hyd yn oed pan fyddai rhywun yn cael ei recriwtio, byddai'n
gadael yn ddieithriad ar ôl blwyddyn neu ddwy i weithio yn yr adran gyfrifon
neu rywle arall o fewn y cyngor; roedd hyn yn rhan o broblem ehangach o ran
recriwtio mewn Timau Archwilio mewn amryw o gynghorau. Oherwydd y broblem hon,
esboniodd Swyddogion eu bod wedi cynnal adolygiad o'r strwythur staffio;
cytunwyd i ddileu'r swydd Archwilydd Cynorthwyol a rhoi swydd Archwilydd yn ei
lle. Cadarnhawyd bod hyn wedi ei gwblhau, a bod y swydd wag yn cael ei
hysbysebu ar hyn o bryd ar fwletin swyddi gwag y cyngor, gyda dyddiad cau o 6
Hydref 2022.
Hysbyswyd yr Aelodau fod un
aelod o staff wedi cwblhau rhan un a dau o'i gymhwyster proffesiynol yn
ddiweddar, ac roedd aelod arall o staff wedi cwblhau rhan un ac roedd disgwyl y
byddai'n sefyll rhan 2 o'r arholiad ddechrau mis Hydref.
Diolchodd y Pwyllgor i'r ddau
aelod o staff am sefyll eu harholiadau cymwysterau proffesiynol.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r effaith ar adnoddau oherwydd salwch staff, yn enwedig o ran
cyflwyno'r Cynllun Archwilio Mewnol. Esboniodd Swyddogion fod y ffocws ar
gwblhau'r meysydd risg uchel, a bod y meysydd risg uchel na chawsant eu
cwblhau’n cael eu cyflwyno yn y flwyddyn gyfredol; yna, cynhaliwyd sgyrsiau â'r Uwch-dimau
Rheoli i benderfynu a oedd angen cynnwys y meysydd nad oeddent wedi'u cynnwys o
hyd, neu os oedd angen i'r tîm gyfeirio’u hadnoddau i feysydd eraill.
Dywedodd Swyddogion fod
Atodiad Un o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn darparu manylion yr adroddiadau a
gyhoeddwyd, a'r graddfeydd
sicrwydd a gymhwyswyd ar ddiwedd yr archwiliad. Nodwyd bod y raddfa sicrwydd
wedi’i derbyn trwy gyfrifiad; o ystyried nifer yr argymhellion a wnaed yn yr
adroddiad, gallai methiant i weithredu'r argymhellion o fewn chwe mis arwain at
fethiant sylweddol yn y system, ac effaith methiant sylweddol yn y system.
Cadarnhawyd bod yr wybodaeth hon wedyn yn cael ei nodi mewn taenlen, byddai
fformiwla'n cael ei chymhwyso, a byddai un o'r categorïau canlynol yn cael ei
gymhwyso i'r adroddiad:
·
Categori Un, Sicrwydd Sylweddol - canfu profion y cynhaliwyd rheolaethau da
ac yn gyffredinol, mân argymhellion yn unig sydd eu hangen.
·
Categori Dau, Sicrwydd Rhesymol - canfu profion fod angen gwella rhywfaint
ar reolaeth, a fyddai'n cael ei gyflawni trwy weithredu'r argymhellion y
cytunwyd arnynt.
·
Categori Tri, Sicrwydd Cyfyngedig - datgelodd profion nifer o feysydd lle'r
oedd angen y gwelliannau, ac yn yr achosion hynny, byddai'n ofynnol i Bennaeth
Gwasanaeth y maes hwnnw ddarparu ymateb ysgrifenedig sy'n dweud pa gamau
gweithredu a gymerwyd i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.
·
Categori Pedwar, ni ellir rhoi sicrwydd - datgelodd profion feysydd sy'n
peri pryder sylweddol, a bydd y Pennaeth Gwasanaeth a/neu'r Rheolwr Atebol yn
mynd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y
camau gweithredu a gymerwyd, a hefyd i ateb unrhyw gwestiynau y gall fod gan yr
Aelodau.
Codwyd y cwestiynau canlynol yn unol ag Atodiad Un o'r adroddiad a
ddosbarthwyd:
·
R40 - Ysgol
Gynradd Crynallt – Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y canfuwyd nad oedd
datgeliad GDG ar waith ar gyfer dau lywodraethwr presennol yn yr ysgol;
Gofynnodd Aelodau pam nad oedd y datgeliadau GDG ar waith. Eglurwyd bod y
llywodraethwyr yn newydd a bod y broses GDG wedi'i dechrau, ond nad oedd wedi'i
chwblhau ar adeg yr archwiliad.
·
R1 – Ysgol
Bryncoch yr Eglwys yng Nghymru – Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod angen mân
welliannau mewn perthynas â Chronfeydd Answyddogol; Dywedodd yr Aelodau fod
problemau wedi bod yn y gorffennol gyda monitro'r Cronfeydd Answyddogol, a
gofynnwyd am ragor o wybodaeth am hyn. Cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn cael
gwybod manylion y broblem ac yn rhoi esboniad drwy e-bost i'r Pwyllgor
ynglŷn â beth yn union oedd y broblem.
·
R2 – Ysgol
Gynradd Coedffranc – Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod rheolaethau da ar
waith mewn perthynas â'r holl feysydd a brofwyd, ar wahân i Gerdyn Prynu/Caffael;
Gofynnodd yr Aelodau am y rhesymau dros hyn. Cadarnhaodd Swyddogion y byddent
yn cael gwybod manylion y broblem ac yn rhoi esboniad drwy e-bost i'r Pwyllgor
ynglŷn â beth yn union oedd y broblem.
Cyfeiriodd Swyddogion at Atodiad Tri o'r adroddiad a ddosbarthwyd,
a oedd yn cynnwys llythyr ymateb oddi wrth y Prif Swyddog Digidol, ac un arall
oddi wrth y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd; yr oedd y ddau ohonynt yn
gyfrifol am y meysydd a gafodd sicrwydd cyfyngedig. Nodwyd bod y llythyrau’n
rhoi gwybodaeth i'r Aelodau yn ymwneud â'r hyn yr oeddent wedi'u wneud ers
iddynt dderbyn eu hadroddiad archwilio. Eglurwyd, ar gyfer yr holl archwiliadau
a gynhaliwyd, y byddai adolygiad ôl-archwiliad dilynol yn cael ei gwblhau rhwng
mis a chwe mis ar ôl yr archwiliad, er mwyn gwirio a gydymffurfiwyd â'r
argymhellion y cytunwyd arnynt.
PENDERFYNWYD: |
Nodi'r adroddiad. |
Dogfennau ategol: