Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddogion
Farn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar y rheolaethau mewnol, trefniadau
llywodraethu a phrosesau rheoli risg sy'n gweithredu o fewn y cyngor yn ystod y
flwyddyn ariannol 2021/22.
Nodwyd mai prif
bennawd yr adroddiad oedd y gwaith a wnaed gan yr archwiliad mewnol a'r
rheolyddion allanol; yn dilyn y gwaith hwn, roedd Swyddogion mewn sefyllfa i
roi sicrwydd rhesymol nad oedd gwendidau sylweddol yn yr amgylchedd rheoli
cyffredinol sy'n gweithredu ar draws y cyngor. Fodd bynnag, nodwyd na
chydymffurfiwyd yn llawn â'r polisi rheoli risg cyfredol yn ystod y flwyddyn
ariannol flaenorol. Sicrhawyd yr Aelodau fod risgiau'n cael eu rheoli yn y
ffordd arferol, a bod y problemau’n ymwneud ag adrodd am y risgiau a’u
diweddaru; roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddiwygio'r polisi, a
fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgorau priodol maes o law.
Pwysleisiodd
Swyddogion, wrth roi'r farn flynyddol, na allant roi sicrwydd llwyr ar unrhyw
adeg; ni ellid profi pob system sy’n gweithredu yn yr awdurdod bob blwyddyn,
felly dim ond sicrwydd rhesymol y gallai Swyddogion ei roi i'r Pwyllgor ar sail
y gwaith a wnaed.
Cyfeiriwyd at Atodiad Un
a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn rhoi manylion y
cyflawniad yn erbyn y cynllun archwilio mewnol; fel y nodwyd yng nghorff yr
adroddiad, collwyd nifer sylweddol o ddyddiau'r llynedd oherwydd salwch yn y
tîm. Nodwyd bod cynllun diwygiedig wedi’i gyflwyno i gyfarfod blaenorol o'r
Pwyllgor, a oedd yn dileu rhai o'r meysydd risg is, a oedd yn caniatáu i
Swyddogion ganolbwyntio ar y meysydd risg uwch.
Soniwyd bod Atodiad 2
o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi manylion cynllun sicrwydd ansawdd a gwella
parhaus y Tîm Archwilio Mewnol.
Gofynnodd yr Aelodau
am ragor o wybodaeth ynghylch y ffaith na chydymffurfiwyd yn llawn â'r polisi
rheoli risgiau. Esboniodd y Swyddogion fod disgwyl i'r polisi gael ei adolygu
bob 3 blynedd, gyda'r dyddiad adolygu wedi'i bennu ar gyfer 2021; cafodd yr
adolygiad hwnnw ei ohirio ychydig, fodd bynnag roedd cynnydd da bellach yn cael
ei wneud ar yr adolygiad. Nodwyd bod oedi o ran adrodd am y risgiau a'r
sefyllfa ddiweddaraf wrth y Pwyllgor priodol; Nid oedd Swyddogion yn gallu cadw
at yr amlder adrodd am nifer o resymau gan gynnwys newid yn y weinyddiaeth ac
oedi cyn cynnal cyfarfodydd. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor wedi cryfhau'r
personél a oedd yn ymdrin â'r polisi rheoli risgiau, a dylai hynny olygu gwelliant
sylweddol yn y dyfodol.
Cyfeiriwyd at
ddatrysiad system RhCC (Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid) a oedd wedi'i drafod yn
flaenorol yn sesiwn hyfforddi'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnwyd a
oedd cynnydd wedi'i wneud wrth roi'r datrysiad digidol ar waith. Tynnodd
Swyddogion sylw at y ffaith bod gwaith wedi'i wneud i symud y gofrestr risgiau
strategol ar ddatrysiad sy'n seiliedig ar Microsoft Excel; roedd yn
barod i'w weithredu, yn dilyn trafodaethau yn y Grŵp Cyfarwyddwyr
Corfforaethol a chyfarfod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol.
Yn dilyn yr uchod,
holwyd a fyddai rhai elfennau o'r system RhCC yn ddigidol, yn ogystal â'r
rheini a oedd ar Microsoft Excel. Eglurwyd bod y risgiau gweithredol, a
oedd ar lefel rheolwr atebol, wedi'u cynnwys ar y system RhCC; roedd y risgiau
strategol yn cael eu cynnal ar daenlen Excel am y tro.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn manylu bod cyfanswm o 42 adroddiad archwilio ffurfiol wedi'u
cyhoeddi, a dim ond un archwiliad a arweiniodd at raddfa sicrwydd gyfyngedig.
Gofynnwyd a oedd hyn yn golygu bod 41 adroddiad yn gadarnhaol. Cadarnhaodd
Swyddogion y byddai'r 41 adroddiad naill ai wedi cael sicrwydd sylweddol neu
raddfa sicrwydd resymol.
Gofynnwyd cwestiwn
ynglŷn â sicrwydd ansawdd, a manylion yn ymwneud â'r tro diwethaf y
cynhaliwyd asesiad sicrhau ansawdd ar y tîm. Cadarnhawyd mai 2018 oedd y tro
diwethaf y cynhaliwyd sicrwydd ansawdd ar y tîm; roedd disgwyl iddynt gael eu
hasesu'n allanol eto yn gynnar yn y flwyddyn galendr newydd. Hysbyswyd y Pwyllgor
y byddai'n cael ei gynnal drwy gyfrwng adolygiad gan gymheiriaid, gyda'r
awdurdodau eraill sy'n cymryd rhan yng Nghymru; Byddai gofyn i Gyngor
Castell-nedd Port Talbot gynnal adolygiad ar Gyngor Bwrdeistref Sirol
Caerffili, a bydd cydweithwyr yng Nghyngor Conwy yn cynnal yr adolygiad ar
Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Yn ogystal â'r uchod,
eglurodd Swyddogion fod y cyngor yn dilyn safonau archwilio mewnol y sector
cyhoeddus, a'u templed asesu allanol, pan oedd adolygiad allanol yn cael ei
gynnal. Nodwyd bod pob cyngor yn gyfrifol am gwblhau hunanasesiad i benderfynu
a oedd y cyngor wedi cydymffurfio, cydymffurfio'n rhannol neu heb gydymffurfio;
byddai'r asesiad hwn wedyn yn cael ei adolygu gan y cyngor a oedd yn cynnal yr
adolygiad allanol, a byddant yn gofyn am dystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r
honiadau a wnaed yn yr hunanasesiad.
Hysbyswyd yr Aelodau
fod y cyngor a oedd yn cynnal yr adolygiad wedi cynnal sgyrsiau ag amrywiaeth o
bobl yn flaenorol er mwyn bwydo i mewn i'r adolygiad; gan gynnwys Cadeirydd ac
Is-gadeirydd y Pwyllgor, Swyddog Adran 151 ac Archwilwyr Allanol. Cadarnhawyd y
caiff adroddiad ffurfiol ei ysgrifennu a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio, wedi i'r adolygiad gael ei gwblhau.
PENDERFYNWYD: |
Nodi'r adroddiad. |
Dogfennau ategol: