Mabwysioadu penderfyniad yn mynegi ein
tristwch dwys am farwolaeth y Frenhines Elizabeth
II, ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w Mawrhyd,
y Brenin Charles III ac I aelodau’r
Teulu Brenhinol yn eu colled.
Cofnodion:
·
Darllenodd y maer y cynnig oedd
gerbron y cyngor heddiw, sef:.
"Mabwysiadu
penderfyniad i fynegi ein tristwch dwys am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II,
ac estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Ei Fawrhydi, y Brenin Charles III, ac i
aelodau'r teulu brenhinol yn eu colled.".
Cyn
rhoddwyd y cynnig i'r cyngor, talodd yr Aelodau canlynol deyrnged i'r Frenhines
Elizabeth II.
·
Y Cyng. A. Llewelyn, Dirprwy
Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
Mr
Maer,
Hoffwn
fynegi fy nghydymdeimlad diffuant i’r teulu brenhinol ar farwolaeth y
Frenhines.
Mae
cynifer o newidiadau wedi bod ym mywyd Cymru, Prydain, ac ar draws y byd yn
ystod teyrnasiad hir y Frenhines.
Mae
wedi denu hoffter a pharch yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a bydd
llawer o bobl yn dymuno talu teyrnged.
Gwelsom hynny ddoe wrth i
bobl ddod ynghyd yn y Sgwâr Ddinesig, yn ffodus yn yr heulwen, fel unigolion ac
fel cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol, Cynghorau Cymuned a Thref, ysgolion,
gwasanaethau gwahanol, a'n Bwrdeistref Sirol, yng nghwmni'r Arglwydd Raglaw a'r
Uchel Siryf.
Hoffwn ddiolch i Mrs Karen
Jones a'r staff i gyd am eu gwaith caled wrth drefnu'r digwyddiad a nifer o drefniadau
eraill mewn cyfnod mor fyr.
Diolch, Barchus Faer
Y
Cynghorydd S Jones, Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Annibynnol :
"Mr
Maer, yn anffodus, nid yw'r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd y Democratiaid
Annibynnol yn gallu bod yma heddiw a hoffwn gyflwyno'r deyrnged ganlynol ar ei
ran:
Mae'n
anrhydedd i mi gael y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r diweddar y Frenhines
Elizabeth II ar ran y Democratiaid Annibynnol.
Dros
y dyddiau diwethaf, rydym wedi clywed pobl o bob cwr o'r bydyn cydnabod yr
ymroddiad diflino i ddyletswydd a oedd yn arwydd o deyrnasiad y Frenhines
Elizabeth.
Mae'r
ffaith ei bod hi wedi byw i wasanaethu eraill am dros 70 mlynedd yn rhyfeddol.
Rydym
hefyd wedi clywed am y parch yr oedd gan wleidyddion tuag ati, gyda'r holl
gyn-brif weinidogion sydd wedi goroesi a'r prif weinidog presennol yn edmygu ei
doethineb a'i gallu i gadw ar ben materion cyfoes.
Ond
bydd pob un ohonom wedi'n cyffwrdd gan y teyrngedau hynod bersonol a dalwyd gan
y Brenin Charles III a'r teulu brenhinol. Iddyn nhw, maent wedi colli mam,
mam-gu a hen fam-gu annwyl.
Mr
Maer, roedd y Frenhines Elizabeth II yn enghraifft wych i bob un ohonom sydd
wedi dewis bywyd mewn gwasanaeth cyhoeddus ac ar ran y Democratiaid Annibynnol
rwy'n talu teyrnged i hynny.
Pan
fyddwch chi'n barod Mr Maer, byddaf yn fodlon eilio'r penderfyniad gerbron y
cyngor y prynhawn hwn".
·
Y Cynghorydd J Hale, ar ran Grŵp Plaid Cymru.
"Mae'n
fraint i mi ychwanegu fy llais ar ran Grŵp Plaid Cymru i'r rheini sy'n
talu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth III heddiw a hefyd i gydymdeimlo'n
ddidwyll â'r Brenin Charles III a'r teulu brenhinol.
Mae
ymlyniad y Frenhines i fywyd cyhoeddus am dros 70 mlynedd yn ddigyffelyb. Mae
hi wedi bod yn bresenoldeb gweladwy a chyson iawn ym mywyd cenedlaethol ac ar
draws y byd a byddwn yn gweld eisiau hynny.
Mae
gen i barch enfawr at y ffordd y gwnaeth hi fyw ei bywyd mewn gwasanaeth
cyhoeddus, ac am ei chefnogaeth a'i hymroddiad i'r lluoedd arfog, ei nawdd i
lawer o achosion elusennol a'i chalendr helaeth o ymrwymiadau ymhell ar adeg
pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl eraill yn mwynhau ymddeoliad haeddiannol, mae'n
haeddu ein parch. Anrhydeddodd ein
diweddar Frenhines yr ymrwymiad a wnaeth yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, felly
mae'n iawn ein bod yn ei hanrhydeddu heddiw.
Mae
wedi bod yn amlwg dros y dyddiau diwethaf bod ein Brenin Charles III a'r teulu
brenhinol ehangach yn caru'r Frenhines yn fawr.
Ar
ran Grŵp Plaid Cymru, rwyf am estyn ein cydymdeimlad â'r Brenin Charles
111 a'r teulu brenhinol ehangach ar yr adeg drist hon.
·
Y Cynghorydd S Reynolds, ar ran y Grŵp Llafur:
Ar
ran y Grŵp Llafur, gyda thristwch mawr y dysgom am farwolaeth y Frenhines
Elizabeth II ar ôl cyfnod hir o wasanaeth i'r wlad hon.
Mae
ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu brenhinol i gyd am eu bod wedi colli
mam, mam-gu a hen fam-gu. Nid yw llawer ohonom erioed
wedi adnabod neb ar wahân i'r Frenhines fel ein harweinydd cyfansoddiadol a'n
brenhines. Ni welwn ei thebyg eto
yn ein hoes ni. Beth bynnag yw eich barn
am y teulu brenhinol, mae'r Frenhines yn ennyn parch, gan ddal lle unigryw yn
ein calonnau ledled y wlad.
Gwnaethom
ni yng Nghastell-nedd Port Talbot ei chroesawu ar sawl achlysur i'n bwrdeistref
sirol. Roedd hyn cyn fy nhymor fel cynghorydd ond rwyf wedi siarad â'r rheini
sy'n cofio sefyll yn y glaw yn aros iddi agor yr Afan Lido, ei hymweliad â'r
Gwaith Dur a gofir gan fy ngŵr, ei hymweliad â'r 'Metal Box' a nifer o
ymweliadau eraill a wnaed i'r Orendy, a ddangoswyd gan y placiau coffa sy'n
addurno muriau'r adeilad. Rwy'n
siŵr bod llawer mwy o achlysuron.
Fel
un sydd hefyd yn marchogaeth, roeddwn i'n teimlo drosti pan nad oedd hi'n gallu
cymryd ei safle mwyach, lle arferai edrych mor frenhinol mewn achlysuron seremonïol.
Gwnaethon
ni i gyd gydymdeimlo pan gollodd hi ei gŵr annwyl, Dug Caeredin tua 18 mis
yn ôl yn ystod y pandemig.
Roedd
hi, fel nifer o bobl eraill a ddioddefodd golled ar yr adeg honno, yn dioddef
yr unigrwydd o fethu â chael teulu'n agos yn ystod yr angladd ac felly roedd
hi’n ysbrydoliaeth i'r rheini ohonom a oedd hefyd ag aelodau agos o'r teulu nad
oedd modd eu cysuro yn ystod y cyfnod hwnnw.
Dangosodd
urddas digyffelyb o ran bywydau cyhoeddus.
Mae'r wlad hon yn ddyledus iawn am y 70 mlynedd gogoneddus o'i
theyrnasiad. Roedd hi'n wladweinyddes
arbennig.
Gorffwysed
mewn hedd.
Duw
Gadwo'r Brenin.
·
Y Cynghorydd C James, ar ran Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Castell-nedd
Port Talbot:
Roeddwn
wedi fy nhristáu'n fawr, fel cynifer o bobl eraill, i glywed am farwolaeth y
Frenhines ddydd Iau.
Cefais
i, fel cynifer o bobl eraill, fy ysbrydoli i ymuno â'r lluoedd arfog gan y
gwasanaeth diflino a roddwyd gan y Frenhines Elizabeth II i'r wlad hon.
Dangosodd
y Frenhines Elizabeth II y gwasanaeth a roddodd i'r wlad hon. Ysbrydolodd hyn y
lluoedd arfog. Lluoedd Arfog Ei
Mawrhydi. Oherwydd ei harweinyddiaeth mae'r lluoedd arfog yn cael eu cydnabod
a'u parchu ledled y byd.
Roedd
pawb o'r lluoedd arfog a gyfarfu â'r Frenhines yn ei pharchu ac roedd yr
hoffter hwnnw yn cael ei fynegi gan y Frenhines yn ei dro. Byddai'n ymweld â'r
lluoedd arfog ar unrhyw gyfle y cai.
Yn
2001, cefais yr anrhydedd o arwain y grŵp seremonïol a oedd yn croesawu'r
Frenhines a Dug Caeredin ar HMS Illustrious lle cynhaliwyd ymweliad gwladol yn
Norwy. Rwy'n cofio'r diwrnod hwnnw bob
amser fel un mawreddog.
Hoffwn
gydymdeimlo'n ddidwyll â'r teulu brenhinol ac mae fy meddyliau a'm gweddïau
gyda nhw ar yr adeg hon.
Diolchodd
y Maer i'r holl siaradwyr.
Cynigwyd
y cynnig gan y Cynghorydd A Llewelyn ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd S
Jones.
PENDERFYNWYD: |
Bod
y cyngor yn cymeradwyo’r penderfyniad i fynegi ein tristwch dwys am
farwolaeth y Frenhines Elizabeth II, ac estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w
Fawrhydi, y Brenin Charles III, ac i aelodau'r teulu brenhinol yn eu
colled." |
Diwedd
y Cyfarfod.
CADEIRYDD