Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Cofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol 

Diweddarwyd yr aelodau am y cais i ymuno â Phrosiect Cofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol y Comisiwn Geo-ofodol a noddwyd gan Lywodraeth y DU, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod gwall yn yr adroddiad. Nodwyd y dylai'r adroddiad ddweud 'dim ond un ar ddeg o ugain o awdurdodau lleol yng Nghymru oedd heb gofrestru eto', nid 'dim ond un o ddau awdurdod lleol yng Nghymru oedd heb gofrestru eto', fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Holodd yr aelodau beth fyddai'r buddion ar gyfer yr awdurdod lleol pe bai'n cymryd rhan yn y prosiect. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth ynghylch y staff, yr amser a'r costau presennol a fyddai'n gysylltiedig â chasglu'r wybodaeth angenrheidiol, gan y byddai angen diweddaru'r wybodaeth hon bob 3 mis ac y gallai effeithio ar adnoddau. Amlygodd swyddogion nad oes ganddynt yr wybodaeth i'w darparu ar hyn o bryd, fodd bynnag hysbyswyd y pwyllgor mai llwyddiant cyffredinol hyn fyddai i bawb gymryd rhan.

 

Roedd y Pwyllgor yn teimlo ei fod yn bwysig i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn adolygu'r penderfyniad, yn manylu ar wybodaeth bellach ynghylch costau a buddion y cynllun a sut mae'r cyngor yn dymuno parhau â'r prosiect.

 

Felly, yn dilyn cynigydd ac eilydd, ychwanegwyd argymhelliad ychwanegol i'r prif argymhelliad, fel yr isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, argymhellir y canlynol:

 

·        Bod y cyngor yn cymryd rhan ym mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad;

·        Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y cyngor

·        Os oes pwysau refeniw yn codi o ganlyniad i fod yn rhan o'r prosiect, ymhellach i Opsiwn 2, yna byddai angen dod o hyd i gyllid o fewn y gyllideb Amgylchedd ac Adfywio bresennol os oes angen ystyried parhad fel blaenoriaeth.

·        Y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2024, yn manylu ar adolygiad o'r penderfyniad, gan gynnwys gwybodaeth bellach am gostau a buddion y cynllun a sut mae'r cyngor yn  dymuno parhau â'r prosiect.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad uchod gan y pwyllgor a Bwrdd y Cabinet. 

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022)

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth mewn perthynas â chwarter 1 y Data Rheoli Perfformiad a fanylwyd yn Atodiad 1 a'r wybodaeth Canmoliaeth a Chwynion a fanylwyd yn Atodiad 2 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 30 Mehefin 2022, ar gyfer Bwrdd Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun y Cabinet, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cododd y pwyllgor craffu'r pwyntiau canlynol mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad a gofynnodd i swyddogion ystyried y pwyntiau hyn ar gyfer adroddiadau perfformiad yn y dyfodol:

 

PI/367 - PPN/001ii - Canran y busnesau risg uchel a oedd yn atebol i arolygiad wedi’i raglennu, a arolygwyd ar gyfer Hylendid Bwyd

·        Gofynnodd yr aelodau am y Dangosyddion Perfformiad uchod gan rannu eu pryderon am y ffaith eu bod yn y categori coch. Nodwyd bod yr aelodau'n deall pwysau'r pandemig ac yn deall mai hwn oedd un o'r prif ffactorau.

 

PI/430 - Canran y cyflenwadau dŵr preifat lle cynhaliwyd asesiad risg yn unol â safonau dŵr yfed

·        Gofynnodd yr aelodau am y Dangosyddion Perfformiad uchod gan rannu eu pryderon am y ffaith eu bod yn y categori coch. Nodwyd bod yr aelodau'n deall pwysau'r pandemig ac yn deall mai hwn oedd un o'r prif ffactorau.

 

PI/519 - Canran y busnesau risg uchel a oedd yn debygol o gael arolygiad wedi’i raglennu ar gyfer Safonau Masnach ac Iechyd Anifeiliaid

 

·        Gofynnodd yr aelodau am y Dangosyddion Perfformiad uchod gan rannu eu pryderon am y ffaith eu bod yn y categori coch. Nodwyd bod yr aelodau'n deall pwysau'r pandemig ac yn deall mai hwn oedd un o'r prif ffactorau.

 

PI/859 a PI/860 – Nifer y casgliadau aelwyd a gollwyd

·        Mae ffigur crai ar hyn o bryd, gofynnodd yr aelodau a fyddai'n ddefnyddiol cael yr wybodaeth hon fel y cyfanswm a fynegwyd fel canran, gyda tharged ar gyfer hynny.

·        Gofynnodd yr aelodau am Ddangosydd Perfformiad newydd a oedd yn nodi canran y casgliadau a gollwyd a oedd wedi eu dychwelwyd a’u casglu, gan gynnwys gwybodaeth am y broses a chamau nesaf. Byddai hyn yn caniatáu i'r pwyllgor craffu gael dealltwriaeth o'r casgliadau a gollwyd a faint o'r rheini a gasglwyd.

 

PI/559 – nifer y diwrnodau ar gyfartaledd i gasglu gwastraff gormodol ac ymyl y ffordd

·        Gofynnodd yr aelodau am ddangosydd perfformiad newydd o ran gwastraff gormodol ac ymyl y ffordd, a nifer y diwrnodau a gymerwyd i'w gasglu/glirio/archwilio.

 

PI/906 - Canran yr erlyniadau gorfodi gwastraff llwyddiannus

·        Nodwyd bod 1 erlyniad yn unig, sef canran o 100% - gofynnodd yr aelodau a ddylai hyn fod yn seiliedig ar y ffigurau adrodd.  Esboniodd swyddogion y gall aelodau gael yr wybodaeth ym mha ffordd bynnag yr hoffent ei derbyn, fodd bynnag mae'r wybodaeth yn seiliedig ar nifer yr erlyniadau a gwblhawyd a pha mor llwyddiannus yw'r erlyniadau hyn.

·        Gofynnodd yr aelodau i'r cosbau ac erlyniadau penodol gael eu rhannu'n ddau ddangosydd perfformiad gwahanol.

 

PI/559 - Nifer cyfartalog y diwrnodau i glirio gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon

·        Gofynnodd yr aelodau a oedd adroddiadau dros y ffôn ac ar-lein gan aelodau wedi'u cynnwys yn y data. Cadarnhaodd swyddogion  y dylai'r wybodaeth gynnwys adroddiadau dros y ffôn ac ar-lein.

·        Gofynnodd yr aelodau i Ddangosydd Perfformiad newydd gael ei ddarparu ar yr adroddiadau Canran yr Achosion Tipio'n Anghyfreithlon a oedd wedi arwain at erlyniad.

 

PI/907 - Nifer yr erlyniadau baw cŵn llwyddiannus gan gynnwys hysbysiadau o gosb benodol.

·        Gofynnodd yr aelodau pam y mae canlyniad y dangosydd perfformiad hwn mor isel a pham nad yw'n cael ei ddangos fel canran. Esboniodd swyddogion fod angen i swyddogion gorfodi fod yn dyst i faw cŵn ac mae'n anodd iawn erlyn gweithgarwch penodol. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth mewn perthynas ag amserlen weithgarwch staff i gael dealltwriaeth o'r ardaloedd sy'n cael eu patrolio.

PI/579 - Canran yr holl geisiadau cynllunio y penderfynwyd arnynt mewn pryd

·        Nodwyd yr effeithiwyd ar y targed penodol hwn oherwydd lefelau staff, a sicrhaodd swyddogion yr aelodau eu bod yn y broses o recriwtio.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.