Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Phil Ryder, Rheolwr Portffolio, a dywedodd fod dwy elfen iddo; y
dangosfwrdd a chrynodeb a ddarparwyd gan y prosiectau.
Amlinellodd y data a
gasglwyd o fewn y dangosfwrdd, a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.
Roedd yr agweddau
allweddol o'r prif raglenni a'r prosiectau fel a ganlyn:
-
Canolfan Dechnoleg y Bae;
roedd yn parhau i gymryd ymweliadau gan ddarpar denantiaid, gan obeithio gweld
tenantiaid yn meddiannu'r rhain a llenwi’r adeilad yn fuan.
-
Cronfa Datblygu Eiddo; fe’i
lansiwyd ym mis mynegiannau o ddiddordebau wedi'u cwblhau ac roeddent yn cael
eu hadolygu gan dîm y prosiect.
-
Prosiect Morol Doc Penfro
(PMDP); roedd yr elfen isadeiledd wedi cychwyn gyda datblygiad y llithrfa. Roedd
y problemau ariannol oherwydd y newid i ofynion y llithrfa bellach wedi’u
goresgyn.
-
Parth Arddangos Sir Benfro
(PASB); dyfarnwyd cwmpasu amgylcheddol a chaffael technegol, ac roedd ffrydiau
gwaith technegol ac amgylcheddol ar waith.
-
Ardal Prawf Ynni Morol (META);
Cynhaliodd staff y prosiect META weithdy ar gyfer 10 myfyrwyr peirianneg
blwyddyn 10 yng Ngholeg Sir Benfro gan gynyddu ymwybyddiaeth o'r diwydiant a’r
cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn Sir Benfro.
-
Canolfan Ragoriaeth Peirianneg
Ynni Morol (MEECE); roeddent wedi rhoi cyflwyniad i Fforwm Gweithgynhyrchu ac
Arloesedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Hefyd cyflwynwyd papur ganddynt yng
Nghynhadledd Peirianneg Cefnforoedd, Alltraeth a'r Arctig (OMAE) yn Hamburg.
-
Pentre Awel; Cymeradwywyd y
Cais Materion a Gadwyd yn Ôl (RMA) yn unfrydol yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis
Mehefin 2022. Mae partneriaeth strategol â Phrifysgol Caerdydd ar waith i
arwain ar swyddogaethau arloesedd a datblygu busnes, gan adeiladu ar eu
partneriaeth a'u harbenigedd arloesedd.
-
Ardal Ddigidol Dinas Abertawe
a'r Glannau; Enillodd tîm 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter' Cyngor Abertawe glod
mawr yng nghynllun Gwobrau Go y DU gyfan am eu gwaith ar brosiect Bae Copr.
Roedd safle 71/72 Ffordd y Brenin yn parhau ac ar y trywydd iawn.
-
Cartrefi fel Gorsafoedd
Pŵer (HAPS); roedd cytundebau ariannu bellach ar waith, a chawsant eu
hadolygiad perfformiad blynyddol gyda thîm Swyddfa Archwilio Cymru ym mis
Gorffennaf 2022. Gwnaed argymhellion yn dilyn hyn, sy’n cael eu rhoi ar waith
ar hyn o bryd.
-
Rhaglen Isadeiledd Digidol;
roedd nifer o arbenigwyr wedi'u penodi ac roedd yr amserlenni cyflwyno wedi’u
gorffen.
-
Prosiect Campysau; roedd tri
aelod pellach o'r tîm wedi'u cyflogi i gefnogi'r prosiect, ac roedd yr asesiad
ecolegol wedi'i gynnal ar safle Lôn Sgeti.
-
Yr Egin; roedd y broses
Hysbysiad Adnabod Newid wedi dechrau'n ffurfiol. Roedd yr ateb cyflwyno a
ffefrir ar gyfer cam dau’n cael ei drafod ar hyn o bryd i sicrhau bod yr hyn y
bwriedid ei gyflwyno’n addas at y diben, gan fod yr achos busnes wedi'i
ysgrifennu tua phum mlynedd yn ôl.
-
Sgiliau a Thalent; Mae'r cais
cyntaf am y prosiect peilot wedi'i adolygu gan y Grŵp Datrys Sgiliau sydd
wedi argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo i'r Partneriaeth Dysgu a Sgiliau
Rhanbarthol (PDSRh). Yn dilyn trafodaeth y PDSRh fe’i cymeradwywyd.
Mewn ymateb i
ymholiadau gan Aelodau Craffu, cadarnhawyd bod cam un Yr Egin wedi ei adeiladu,
ond roedd angen lle ychwanegol ar gyfer cam dau, ac roedd yn cael ei ystyried
ar hyn o bryd. Roedd yn hanfodol sicrhau bod y lle yn addas at y diben a
sicrhau bod y niferoedd cyflogaeth a thwf y sector yn cael eu bodloni gan yr
adeilad a ddarparwyd.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r
pwyllgor yn nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: