Agenda item

Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022/2023

Cofnodion:

Cyflwynodd Archwilio Cymru eu Cynllun Archwilio a oedd yn cynnwys manylion y gwaith yr oeddent yn bwriadu’i wneud yn ystod 2022/23; er mwyn cyflawni’u cyfrifoldebau statudol, hysbysir y cyngor pryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud, faint y bydd yn ei gostio a phwy fydd yn ymgymryd â'r gwaith.

Nodwyd y cyfrifoldebau a'r datganiadau ariannol ym mharagraff wyth o'r cynllun a ddosbarthwyd. Amlinellwyd y canlynol o Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

-         Roedd yn rhaid i Archwilio Cymru roi barn ar wirionedd a thegwch datganiadau ariannol y cyngor; ac asesu a oedd yr adroddiad naratif a'r datganiad llywodraethu blynyddol, a luniwyd yn unol â chanllawiau, yn gyson â'r cyfrifon a gwybodaeth Archwilio Cymru am y cyngor.

-         Wrth archwilio'r cyfrifon, mabwysiadodd Archwilio Cymru gysyniad o fateroldeb wrth gyflawni’u gwaith; edrychon nhw ar gamddatganiadau a allai arwain at gamarwain y sawl  sy’n darllen y cyfrifon.

-         Adroddodd Archwilio Cymru lefel yr hyn a farnwyd ganddynt yn gamddatganiadau, sy'n berthnasol i'r cyngor, yn eu datganiadau ariannol. Nodwyd bod hyn tua £5.5 miliwn.

-         Roedd yr ymagwedd archwilio’n seiliedig ar asesiad Archwilio Cymru o beryglon camddatganiadau perthnasol; yng ngham cynllunio'r archwiliad, roeddent wedi nodi tair risg a grynhowyd yn Arddangosyn Un yn y cynllun a ddosbarthwyd. Soniwyd bod yr elfen hon hefyd yn nodi'r gwaith roedd Archwilio Cymru yn bwriadu’i wneud i fynd i'r afael â'r risgiau hynny.

 

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r gwaith archwilio perfformiad a wnaed; gellid dod o hyd i fanylion y gwaith hwn ar dudalen 21 o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Eglurwyd bod archwiliad perfformiad yn seiliedig ar y pum ffordd o weithio, ynghyd â'r tair E, Economi, Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd; Roedd hi'n ddyletswydd ar Archwilio Cymru i seilio'u gwaith o gwmpas y meysydd allweddol hyn.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod Archwilio Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd hyblyg ar draws eu harchwiliadau perfformiad gyda chynghorau ledled Cymru yn ystod y pandemig; roeddent wedi sicrhau eu bod yn ymgynghori â chynghorau, fel maent yn ei wneud bob blwyddyn, yn ogystal â llywio’u gwaith yn y dyfodol.

Nodwyd bod Archwilio Cymru wedi cynnal gweithdai blynyddol gyda chynghorau er mwyn trafod syniadau cychwynnol o ran y risgiau a nodwyd, a'r hyn yr oedd cynghorau’n gweithio arno ar hyn o bryd o ran y risgiau hynny; yn dilyn hyn, lluniodd Archwilio Cymru raglen o waith archwilio a oedd yn cwmpasu elfennau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Soniwyd bod y cynllun yn nodi'r tair lefel o waith ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gyda phwyslais arbennig ar y gwaith perfformiad lleol, y gellid dod o hyd i fanylion yn eu cylch yn Arddangosyn Dau o'r cynllun a ddosbarthwyd.

Tynnodd Archwilio Cymru sylw at raglen archwilio perfformiad Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2022/2023. Yr elfen gyntaf a nodwyd yn y tabl oedd sicrwydd ac asesiad risg; rhestrwyd y meysydd a nodwyd i'r cyngor ganolbwyntio arnynt fel sefyllfa ariannol, rheoli rhaglenni cyfalaf, llywodraethu, y defnydd o wybodaeth am berfformiad gan ganolbwyntio ar adborth a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, a gosod amcanion lles.

Cadarnhawyd bod Archwilio Cymru wedi dechrau eu hadolygiad thematig o ofal annisgwyl; roedd briff y prosiect ar gael, ac roedd tîm Archwilio Cymru a oedd yn gyfrifol am iechyd a llywodraeth leol yn gweithio ar hyn.

Roedd yr Aelodau'n ymwybodol y cytunwyd bod adolygiad thematig arall yn cael ei gynnal ar draws holl gynghorau Cymru ar gyfer 2022/23; Y llynedd (2021/22) roedd yr adolygiad yn seiliedig ar reoli'r gweithlu a rheoli asedau, ac eleni cadarnhawyd y byddai'r adolygiad yn seiliedig ar waith digidol. Dywedwyd y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am sut roedd cynghorau wedi dysgu ac wedi bod yn arloesol drwy gydol y pandemig; roedd yn rhaid i bob cyngor ddarllen yr hyn yr oeddent yn bwriadu’i wneud cyn y pandemig, ac fe allai'r pandemig fod wedi bod yn gatalydd i wneud gwelliannau i'r ffordd y mae cynghorau'n gweithio. Nodwyd bod gwasanaethau digidol wedi dod yn ddatrysiad ar gyfer y dyfodol i wasanaethau cyhoeddus, felly roedd yn thema bwysig i'w hystyried.

Nodwyd bod prosiect lleol y cyngor wedi'i gymeradwyo; bydd Archwilio Cymru yn edrych ar effeithiolrwydd craffu yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai Archwilio Cymru yn trafod hyn ymhellach yn y flwyddyn newydd, i benderfynu sut roedd y gwaith yn cael ei ddatblygu; roedd cyfleoedd hefyd i Archwilio Cymru hysbysu’r cyngor o'r arferion gorau a dysgu gan gynghorau eraill.

I gloi'r adroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith bod y ffi archwilio amcangyfrifedig ar gyfer 2022 wedi'i nodi yn Arddangosyn Tri o'r cynllun a ddosbarthwyd; Roedd Arddangosyn Pedwar yn nodi prif aelodau'r tîm archwilio, ac roedd yr amserlen arfaethedig yn Arddangosyn Pump yn manylu ar yr amserlen ar gyfer pryd y gallai'r cyngor ddisgwyl i Archwilio Cymru gwblhau a rhoi adroddiad am y gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: