Dymchwel yr adeilad
swyddfeydd 2 lawr presennol ac adeiladu 18 o fflatiau tai fforddiadwy ar y
lloriau uwch gydag unedau swyddfa/masnach ar y llawr gwaelod a gwaith allanol
cysylltiedig ac ardal barcio.
Yn Eagle House, 2 Heol
Talbot, Port Talbot SA13 1DH
Cofnodion:
Darparodd swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (dymchwel y swyddfa ddeulawr bresennol, ac adeiladu 18
o fflatiau tai fforddiadwy ar y lloriau uchaf gydag unedau swyddfa/masnachol ar
y llawr gwaelod a gwaith allanol cysylltiedig ac ardal barcio yn Eagle House, 2
Heol Talbot, Port Talbot SA13 1DH) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelodau Ward Lleol a'r Aelod Lleol dros
Ddwyrain Sandfields yn bresennol i roi eu sylwadau.
PENDERFYNWYD:
Gohirio cais rhif P2021/0856 hyd nes y bydd yr ymgeisydd yn cynnal Asesiad o'r
Effaith ar Dreftadaeth er mwyn rhoi cyfiawnhad manwl pellach ynghylch pam y
mae'r datblygiad arfaethedig yn drech na phwysigrwydd treftadaeth y safle a
cholli'r Adeilad o Bwysigrwydd Lleol, a bod adroddiad diwygiedig swyddog yn
cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor yn manylu ar ganlyniad yr Asesiad o'r Effaith
ar Dreftadaeth.
Dogfennau ategol: