Cofnodion:
I'w
benderfynu:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
1. Rhoi cymeradwyaeth am warantu'r diffyg o £200,000 am y
rhesymau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cymerir hyn o gyllideb wrth
gefn y Rhaglen Gyfalaf i alluogi'r prosiect i ddechrau ar unwaith.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Rheoli'r
risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â chwymp rhannol y ffordd
bresennol a sicrhau bod Castle Drive yn cael ei ailagor i draffig cyn gynted â
phosib a bod y grant presennol yn cael ei wario'n unol ag amodau Grant
Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Gyda
chytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet, bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar
waith ar unwaith. Nid yw'r eitem yn destun y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: