Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo fel y meini prawf ar
gyfer gwahodd ceisiadau am arian, a lywodraethir gan Gynllun Grantiau'r Trydydd
Sector 2023-24:
·
Cyfrannu at gyflawni polisïau a blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u cynnwys yng
Nghynllun Corfforaethol 2022-2027 y cyngor.
·
Lleihau'r galw ar wasanaethau'r
cyngor. Er enghraifft, hyrwyddo a chynorthwyo dinasyddion i ddefnyddio
gwasanaethau digidol y cyngor; hyrwyddo cyfranogiad mewn gwasanaethau dewisol i
gynyddu nifer sy'n eu defnyddio; neu drwy gynnig gweithgareddau ymyrryd yn
gynnar ac atal sy'n cynnal neu'n gwella lles pobl
·
Manteisio ar adnoddau ychwanegol.
Croesewir yn arbennig geisiadau sy’n dangos sut caiff arian y cyngor ei
ddefnyddio i ddenu adnoddau ychwanegol i
gefnogi polisïau a blaenoriaethau’r cyngor.
·
Cynaliadwyedd ariannol. Bydd y
cyngor yn dymuno cael ei fodloni nad yw’r ymgeisydd yn ddibynnol ar arian
parhaus gan y cyngor i gyflawni cynaladwyedd ariannol.
·
Yn ogystal â'r uchod, mae croeso
arbennig i geisiadau sy'n canolbwyntio ar weithgareddau a fydd yn helpu grwpiau
a chymdeithasau cymunedol i wella o'r pandemig a datblygu capasiti/cydweithio
cymunedol ymhellach - gan adeiladu ar y gweithrediadau cymunedol a gefnogodd yr
ymateb i bandemig COVID-19.
·
Mae'r cyngor yn parhau i ddarparu
arian am hyd at 3 blynedd a fydd yn rhoi’r sicrwydd i sefydliadau'r trydydd
sector wneud cais am arian o ffynonellau eraill a galluogi ymagwedd tymor hwy
at gynllunio a sicrhau cynaladwyedd.
2. Nodi'r mân
ddiwygiadau a wnaed i'r cynllun fel sydd wedi'u nodi yn Atodiad 1.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod
penderfyniadau cyllido a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 mewn
perthynas â grantiau a ddyfernir o dan Gynllun Grantiau'r Trydydd Sector, yn
cyd-fynd â blaenoriaethau cyffredinol y cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau sy'n dod i
ben am 9am ddydd Llun, 1 Awst 2022.
Dogfennau ategol: