Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:
1.
Rhoddir cymeradwyaeth i adleoli'r
cerbydlu casglu gwastraff i ardal Crymlyn Burrows.
2.
Ceisiadau angenrheidiol y Corff
Cymeradwyo SuDs fel sy'n angenrheidiol i ymdrin â materion sydd y tu hwnt i'r
hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safle'r orsaf drosglwyddo:
3.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Gofal Strydoedd mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd, yr Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet i
benodi cynghorwyr ymgynghorol i baratoi unrhyw ddogfennau dylunio a thendro, a
chaffael y gwaith adeiladu angenrheidiol.
4.
Nodi'r gofyniad cyfalaf ar gyfer
y prosiect a chymeradwyo'r gwariant cyfalaf angenrheidiol drwy'r gronfa
wastraff o £0.9m a benthyca darbodus o £2.5m, a thelir am yr ail swm o'r
cyllidebau rheoli gwastraff/casglu gwastraff.
5.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Gofal Strydoedd mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Pobl a Datblygu
Sefydliadol, yr Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet i roi rhybudd
priodol i staff a gweithredu'r cynnig i adleoli'r
gwasanaeth casglu gwastraff i'r Orsaf Drosglwyddo cyn gynted ag y bydd
cyfleusterau ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2023/24.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Sicrhau y
gellir diwallu anghenion gwasanaethau yn y dyfodol a bod modd mwyafu arbedion
effeithlonrwydd.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ar 1 Awst 2022 am 9.00am.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
ymgynghoriad staff a lywiodd y cynnig, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: