Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw i broses Sgrinio'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cymeradwywyd y Cynllun Buddsoddi
Rhanbarthol fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn Atodiad 2.
2.
Dynodwyd Cyngor Dinas a Sir
Abertawe yn awdurdod lleol arweiniol at ddibenion UKSPF.
3.
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael
ei roi i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd
a'r Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet i gymeradwyo'r Cynllun Buddsoddi
rhanbarthol terfynol i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst 2022.
4.
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael
ei roi i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Prif
Swyddog Cyllid, yr Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet i ymrwymo i
gytundebau grant neu ddogfennau cysylltiedig a allai fod yn angenrheidiol i
gael cyllid o'r UKSPF.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Galluogi
Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno Cynllun Buddsoddi UKSPF yn ffurfiol ar ran
rhanbarth de-orllewin Cymru a galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i
ymrwymo i gytundebau ariannu gyda sefydliadau i gyflawni prosiectau UKSPF.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ar 1 Awst 2022 am 9.00am.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Dogfennau ategol: