Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:
1. Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r
Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a'r
Prif Swyddog Cyllid i dderbyn y cynnig grant ac ymrwymo i'r cytundeb grant gyda
Llywodraeth Cymru;
2. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i'r Prif Swyddog Cyllid i wneud ceisiadau am gyllid yn unol ag amodau a
thelerau'r grant.
3. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai i gyd-drafod ac ymrwymo i'r drwydded gyda Goytre
Leisure Holdings Limited ar gyfer defnyddio canolfan ferlota L&A yng
Ngoetre at ddibenion Canolfan Groesawu fel y nodir uchod
4. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i ddyfarnu'r
contract ar gyfer gwasanaethau diogelwch yn uniongyrchol ar sail angen brys.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r
cyngor i ymateb yn gyflym ac yn briodol i'r argyfwng dyngarol o ganlyniad i'r
gwrthdaro yn yr Wcráin, a sefydlu canolfan groesawu, gan gynnwys cefnogaeth
gynhwysol yng Nghanolfan L&A, Goytre.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Gyda
chytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet, bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar
waith ar unwaith. Nid yw'r eitem yn destun y cyfnod galw i mewn o dridiau.