Agenda item

Gofal plant mewn Ysgolion ac Adeiladau Addysg: Newidiadau Dros Dro i Drefniadau Rhent Cyfredol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Rhoi cymeradwyaeth mewn egwyddor i ddechrau peilota newidiadau i daliadau ar gyfer darparwyr gofal plant mewn ysgolion, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Bydd adroddiad ar ddatblygiadau gofal plant ar safleoedd ysgolion yn parhau i gael ei adrodd i'r Aelodau'n flynyddol.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau parhad datblygiad gofal plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn unol â pholisïau a chynlluniau LlC, gan ganiatáu i swyddogion ymdrechu i gau'r bylchau digonolrwydd gofal plant a nodwyd gan ein Harchwiliad Digonolrwydd Gofal Plant, yn ogystal â chefnogi Cyrff Llywodraethu ysgolion i gefnogi'r cais am ddatblygu cyfleusterau gofal plant ar safleoedd ysgolion.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 1 Awst 2022.

 

Dogfennau ategol: