Agenda item

Cais Rhif. P2022/0122 - Windsor Lodge

 

Newid defnydd o annedd i gartref gofal preswyl ar gyfer oedolion 19 i 64 oed (C3 i C2) gan greu 4 uned byw â chymorth hunangynhwysol, dymchwel ystafell wydr bresennol ac adeiladu estyniad ochr unllawr, ychwanegu ffenestr ddormer ar lethr cefn y to, addasu'r garej yn gyfleusterau staff, ac adeiladu to fflat newydd i'r estyniad cefn presennol gyda chynnydd mewn uchder, ynghyd ag adeiladu grisiau a ramp mynediad newydd gyda gwaith peirianneg cysylltiedig ac ardaloedd o loriau caled.

 

Yn Windsor Lodge, Y Rhodfa, Cwmafan, Port Talbot SA12 9PL

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Newid defnydd o annedd i gartref gofal preswyl ar gyfer oedolion 19-64 oed (C3 i C2), gan greu 4 uned byw â chymorth hunangynhwysol, dymchwel yr ystafell wydr bresennol ac adeiladu estyniad ochr unllawr, ychwanegu ffenestr ddormer at lethr y to yn y cefn, addasu'r garej yn gyfleusterau staff, ac adeiladu to fflat newydd i'r estyniad cefn presennol gyda chynnydd mewn uchder, ynghyd ag adeiladu grisiau a ramp mynediad newydd gyda gwaith peirianneg cysylltiedig ac ardaloedd o loriau caled yn Windsor Lodge, Y Rhodfa, Cwmafan, Port Talbot SA12 9PL), fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cais Rhif P2020/0486, yn unol ag argymhellion swyddogion,

 

 

Dogfennau ategol: