Cofnodion:
Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y newidiadau i gymesuredd
gwleidyddol ac aelodaeth y pwyllgor fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo'r dyraniad cyfrannol o seddi i'r grwpiau gwleidyddol
a gynhwysir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.Cymeradwyo'r newidiadau i
aelodaeth pwyllgorau fel y nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad.
3.Cymeradwyo'r prif
Gynghorydd a'r dirprwy Gynghorydd tref/cymuned i'r Pwyllgor Safonau fel y nodir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ym mharagraff 4.
4.Cymeradwyo'r Aelodau
Hyrwyddo fel y nodir ym mharagraff 5 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: