Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd drosolwg i Aelodau'r Cyngor o'r adroddiad a ddosbarthwyd i
hysbysebu swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol i Bwyllgor Safonau Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Amlygwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r
cyngor yn cadarnhau'r ymgeiswyr llwyddiannus.
PENDERFYNWYD:
1. Bod dau aelod annibynnol
arall yn cael eu recriwtio i wasanaethu ar Bwyllgor Safonau Castell-nedd Port
Talbot.
2. Bod panel ymgynghorol o un aelod
lleyg o'r panel (Mrs Gaynor Richards), aelod o'r grŵp annibynnol sydd
hefyd yn gynghorydd tref a chymuned (a enwebwyd gan Arweinydd y Cyngor), y Maer
a dau Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnull i gynnal unrhyw
gyfweliad, gydag argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r cyngor.
3. Bod y gyfres o ddogfennau
sy'n cael eu rhoi i unrhyw ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am y ddwy swydd
wag yma yn cael eu cymeradwyo.
Dogfennau ategol: