Cofnodion:
Gyda
thristwch mawr tynnodd y Maer sylw at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd
Stephen Williams a gynrychiolodd Ward Cimla rhwng 2002 a 2008. Fel arwydd o barch, cafwyd munud o
ddistawrwydd yng nghyfarfod y cyngor.
Yn
dilyn hynny, llongyfarchodd y Maer Dr Keith Reid, a dderbyniodd MBE am
wasanaethau i'r GIG yn ystod pandemig COVID-19 yn rhestr anrhydeddau diweddar
pen-blwydd y Frenhines.