Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Nodi cynnydd ariannol y taliadau iawndal a adroddwyd yn
flaenorol.
2. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r
Cabinet i gytuno a thalu'r costau rhesymol a hawlir fel rhan o'r cytundeb
dymchwel.
3. Bod y bwlch ariannol o ran costau dymchwel yn cael ei
nodi.
4. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r
Cabinet i dalu anfoneb y contractwr dymchwel, adennill y cyfraniadau yswiriant
fel rhan o'r cytundeb dymchwel a chofrestru unrhyw falans sy'n weddill fel
dyled prisiant tir lleol yn erbyn yr eiddo a'r tir.
5. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio
mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet ar ôl
dymchwel y tai a throsglwyddo'r holl arian sy'n ddyledus fel rhan o'r cytundeb
dymchwel, i ymrwymo i gytundeb gyda'r perchnogion i brynu'r tir am £1 ynghyd â
thaliad o hyd at £500 o gostau cyfreithiol.
6. Nodi bod trosglwyddiad y tir i berchnogaeth y cyngor,
unrhyw ddyledion sydd wedi'u cofrestru fel prisiant tir lleol mewn perthynas
â'r costau dymchwel heb yswiriant yn cael eu dileu.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Galluogi'r
cyngor i symud ymlaen a chwblhau gwaith dymchwel yr eiddo yn 96, 94, 92, 90 ac 88
Heol Cyfyng ac i brynu'r tir er mwyn i'r cyngor gymryd rheolaeth o'r safle i
sicrhau nad oes unrhyw werthiant pellach na datblygiad anawdurdodedig yn
digwydd a allai tanseilio sefydlogrwydd y llethr a pheryglu'r isadeiledd
priffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau sy'n dod i
ben am 9am ddydd Llun, 1 Awst 2022.