Cofnodion:
Roedd yr
Aelodau'n gefnogol o'r argymhelliad a gynigiwyd yng nghyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn fel y manylir yn y
penderfyniadau isod.
Penderfyniadau:
1.
Bod Aelodau'n nodi'r dull o
gyflawni'r gwaith o ddefnyddio staff mewnol erbyn 1 Ebrill 2023.
2.
Bod y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden
a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod Cabinet perthnasol
yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau
cychwynnol sy'n ofynnol er mwyn cyflwyno achos busnes llawn i'r Cabinet/Bwrdd y
Cabinet ym mis Hydref/Tachwedd 2022 i gyflawni'r gwaith o ddefnyddio staff
mewnol mewn gwasanaethau hamdden erbyn 1 Ebrill 2023 (ar yr amod na fydd
dirprwyaeth o'r fath yn cael ei defnyddio lle mae newid arfaethedig i’r modd y
darperir gwasanaethau a/neu gost sylweddol i ddarparu gwasanaethau).
3.
Bod adroddiadau yn y dyfodol yn
cael eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet Addysg, Sgiliau a Llesiant.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod
trefniadau addas ar waith ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau hamdden dan do i
Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Llun, 1 Awst 2022 am 9.00am.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n
ofynnol i gynnal ymgynghoriad allanol ar yr adroddiad hwn mewn perthynas â
darparu gwasanaethau hamdden. Cynhelir ymgynghoriadau staff TUPE, bydd y cyngor
yn gweithio gyda Celtic Leisure i sicrhau bod pob aelod o staff Celtic Leisure
yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau ac mae'r cyngor wedi ceisio
cysylltu â Celtic Leisure ar bob adeg i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon
penodol a godwyd, er bod y rhain wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn, gyda'r
amserlen fel ffocws allweddol.
Dogfennau ategol: