Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cymeradwyo eithrio gofynion
Rheolau Gweithdrefnau Contractau Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyflawni
Cynllun Rhyddhad Caledi Castell-nedd Port Talbot gan ddefnyddio asiantaeth
bartner fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoi'r awdurdod dirprwyedig i'r Prif
Swyddog Cyllid ymrwymo i gytundeb partneriaeth gyda Cymru Gynnes i hwyluso'r
gwaith o gyflwyno Cynllun Rhyddhad Caledi CNPT.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Er mwyn
galluogi'r cyngor i ddarparu rhyddhad caledi i drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 3 Gorffennaf 2022. Nid oedd unrhyw 'alwadau
i mewn' am yr eitem hon.
Dogfennau ategol: