Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cymeradwyo hysbysebu'r
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Amrywiol sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio
ar gyfer y Datblygiad Tai newydd oddi ar Heol y Dôl, Castell-nedd fel y manylir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Bydd y
gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth ac yn
rheoleiddio symudiadau traffig er diogelwch ar y ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 3 Gorffennaf 2022. Nid oedd unrhyw 'alwadau
i mewn' am yr eitem hon.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.
Dogfennau ategol: