Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cymeradwyo hysbysebu'r
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30 mya sy'n gysylltiedig â
Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Llywodraeth Cymru 2023 fel y manylir yn
Atodiad A, B ac C i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar
waith ar y safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Bydd y
gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn newid y llwybrau strategol yn ôl
i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn
genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar y prif rwydwaith ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 3 Gorffennaf 2022. Nid oedd unrhyw 'alwadau
i mewn' am yr eitem hon.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.
Dogfennau ategol: