Craffu ar yr adroddiadau a drafodwyd gan
Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin 2022.
Cofnodion:
Cyflwynodd Jonathan Burnes, Rheolwr y Rhaglen, yr
adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer
Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Roedd Adroddiad Prif Bwyntiau Bargen
Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA) yn manylu ar y cynnydd misol a wnaed a'r
gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer rhaglenni a phrosiectau sy’n rhannau
hanfodol o bortffolio BDdBA.
Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Rhaglenni’n dosbarthu
dogfen i Aelodau'r Pwyllgor Craffu yn nodi'r gwahanol acronymau a ddefnyddiwyd
yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd gan y Pwyllgor
Craffu, cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am y risgiau yn y
dyfodol; fodd bynnag, byddai'r dangosfwrdd yn amlygu risgiau coch ac eitemau
ambr sy’n codi'n unig.
Cadarnhaodd Swyddogion a oedd yn y cyfarfod fod y
prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn dal i fod ar ei gamau cynnar,
fodd bynnag roedd rheolwr prosiect bellach wedi'i recriwtio. Roedd y broses
gaffael ar gyfer y dechnoleg a'r systemau’n parhau, ac roedd swyddi'n mynd i
gael eu creu'n fuan iawn. Mynegodd yr Aelodau eu diddordeb mewn ymweld â’r
safle.
O ran creu swyddi, cadarnhawyd y byddai tua 9,700 o
swyddi'n cael eu creu ar draws yr holl brosiectau. Ar hyn o bryd, y disgwyl
oedd y byddai 1,800 o swyddi’n cael eu creu erbyn diwedd 2023, a 2,500 o swyddi
ychwanegol yn 2024. Cytunodd Swyddogion i gynnwys dadansoddiad o'r swyddi yn y
dangosfwrdd monitro yn y dyfodol.
Mynegodd yr Aelodau bryder am y contractwyr mawr
sy'n ymgymryd â'r prosiectau, yn hytrach na chwmnïau lleol. Awgrymodd yr
Aelodau y dylai cwmnïau adeiladu llai o Gymru wneud cais ar y cyd ar gyfer un o'r
prosiectau. Esboniodd y Swyddogion y byddai angen i gontractwyr unigol wneud
cais am lawer o'r prosiectau hyn er mwyn ennill, sy'n defnyddio llawer o
adnoddau, ac yn anffodus nid oedd maint a graddfa'r swyddi’n aml yn addas.
Mewn ymateb i ymholiadau am y gyllideb, cadarnhawyd
bod cyfraddau chwyddiant yn cynyddu'n uwch na'r disgwyl; fodd bynnag, roedd
disgwyl y byddai modd cyflawni'r prosiectau o hyd heb arian ychwanegol. Yn
ffodus, adeiladwyd Arena Abertawe yn bennaf yn ystod y pandemig, a daeth hyn o fewn
y gyllideb.
Holodd yr Aelodau faint o arian oedd ar gael gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer blynyddoedd 10 i 15. Cadarnhawyd bod BDdBA yn disgwyl
derbyn tua £2 filiwn y flwyddyn. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ddosbarthu'r
ddogfen dadansoddi ffigurau pennawd i holl Aelodau newydd y Pwyllgor Craffu.
Dogfennau ategol: