Cofnodion:
Nododd yr
Aelodau yr wybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod fel atodiad
cyhoeddus.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiadau effaith mewn perthynas â chydraddoldeb, risg,
defnydd cymunedol a'r iaith Gymraeg, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru 2015), ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol ac yn unol ag Adran 48
o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
1.
Cymeradwyo cyhoeddi cynnig
statudol i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Nheras Sant Ioan, Mynachlog
Nedd, Castell-nedd. SA10 7ND.
2.
Y dyddiad ar gyfer rhoi hwn ar
waith fydd 1 Ionawr 2023.
3.
Cyhoeddir yr hysbysiad o'r cynnig
ar 30 Mehefin 2022, gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau ar gyfer derbyn
gwrthwynebiadau. Bydd adroddiad yn cael
ei ddwyn yn ôl at yr Aelodau yn dilyn canlyniad y cyfnod hwn ar gyfer
penderfyniad terfynol.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r
cyngor i gydymffurfio â gofynion cyhoeddi ffurfiol y Côd Trefniadaeth Ysgolion
a deddfwriaeth gysylltiedig. Bydd rhoi'r
cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a
chyflawni potensial pob plentyn. Bydd
hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg
effeithlon yn ei ardal.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Gyda
chytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet, bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar
waith ar unwaith. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.
Dogfennau ategol: