Cofnodion:
Ar
ddechrau'r eitem dywedwyd wrth Aelodau y byddai rhoi'r penderfyniad ar waith yn
amodol ar y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ni ddywedwyd hynny yn yr adroddiad.
Penderfyniadau
1.
Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2021-2022 fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Cymeradwyo ymgymryd â'r gwaith
fel y manylir yn y Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu yn ystod 2022 – 2023.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
I sicrhau
bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn bodloni gofynion Rheoliad 5(2)
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 mewn perthynas â'r adolygiad
blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol y cyngor a pharatoi a
chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 3 Gorffennaf 2022. Nid oedd unrhyw 'alwadau
i mewn' am yr eitem hon.
Dogfennau ategol: