Agenda item

Cynigion ar gyfer Cronfa Codi'r Gwastad (Yn eithriedig dan baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.           Cymeradwyo pecyn o geisiadau'r Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer etholaethau Castell-nedd ac Aberafan a'r cais Trafnidiaeth yn unig fel y manylir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

2.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac Aelod(au) perthnasol o'r Cabinet gymeradwyo'r achos busnes terfynol i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 6 Gorffennaf 2022 ar gyfer y cynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

3.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid a'r Arweinydd a'r Aelodau Perthnasol o'r Cabinet  ymrwymo i gytundebau grant neu ddogfennau cysylltiedig a allai fod yn angenrheidiol er mwyn defnyddio cyllid o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

 

4.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gymeradwyo proses gaffael, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno ceisiadau UKLUF yn ffurfiol ar gyfer etholaethau Castell-nedd ac Aberafan a'r cais Trafnidiaeth yn unig i Lywodraeth y DU.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 3 Gorffennaf 2022. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.