Cofnodion:
Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr adroddiad, ac esboniodd
i'r Aelodau, gan ei fod wedi'i gytuno i ohirio'r ddau adroddiad blaenorol, ei
bod yn bwysig rhoi trefniadau gwneud penderfyniadau ar waith tan fod Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi'i gyfansoddi'n llawn fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: 1.Bod unrhyw faterion sydd fel arfer yn gofyn
am benderfyniad gan y Cabinet neu Fyrddau'r Cabinet, Aelodau'r Cabinet, unrhyw
Bwyllgor neu Is-bwyllgor y Cyngor, ac y mae angen, ym marn y Prif Weithredwr,
wneud penderfyniad yn eu cylch yn ystod y cyfnod o 25 Mai 2022 tan ddyddiad
cyfarfod nesaf y cyngor, yna bydd gan y Prif Weithredwr awdurdod dirprwyedig i
wneud penderfyniad ac awdurdodi unrhyw gamau gweithredu ar y materion dan sylw,
yn amodol ar y canlynol:
(a) mae'n rhaid i unrhyw
benderfyniadau a wneir gydymffurfio â fformat adrodd arferol, gan gynnwys
datganiad cydymffurfio a rheswm dros benderfyniad, ac eithrio hynny, cânt eu
rhoi ar waith ar unwaith heb unrhyw ofyniad galw i mewn;
(b) bydd pob penderfyniad yn
cael ei adrodd yn ôl i'r Aelodau;
(c) ni fydd y ddirprwyaeth hon
yn cynnwys unrhyw benderfyniad ar geisiadau cynllunio y mae Pennaeth y Pwyllgor
Cynllunio yn eu hystyried yn rhai brys fel arfer, oni bai fod y Pennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn ystyried ei fod yn fater brys yng nghyd-destun
amserlenni statudol; ac ni fydd yn cynnwys penderfyniadau ar unrhyw faterion cynllunio yr ystyrir eu bod
yn "ddadleuol" ym marn y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd.
(ch)Wrth arfer
y pwerau dirprwyedig uchod, bydd gofyn i'r Prif Weithredwr ymgynghori ag
arweinwyr pob grŵp gwleidyddol.
2.Bod y Maer neu'r Dirprwy
Faer yn cael ei awdurdodi i fod yn bresennol wrth agor tendrau yn ystod y
cyfnod o 25 Mai 2022 hyd at ddyddiad cyfarfod nesaf y cyngor.
Dogfennau ategol: