Agenda item

Cyhoeddiadau’r Maer

Cofnodion:

Roedd yn ofid mawr i'r Maer hysbysu'r cyngor am farwolaeth y cyn-Gynghorydd Andrew Tutton, a gynrychiolodd Ward Port Talbot rhwng 2004 a 2012, a'r cyn-Gynghorydd John Sullivan, a gynrychiolodd Ward Aberafan rhwng 2004 a 2012.  

 

Hefyd, hysbyswyd y cyngor am farwolaeth Alistair Borthwick, a fu'n gweithio yn y Gwasanaethau Democrataidd am nifer o flynyddoedd cyn iddo ymddeol.

 

Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng nghyfarfod y cyngor.