Cofnodion:
Derbyniodd yr aelodau Ddata Rheoli Perfformiad
Chwarter 4, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Rhagfyr 2021, ar gyfer y
Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes sy'n ymwneud â Diogelwch
Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd.
Holodd yr Aelod am yr eitem a oedd yn ymwneud â'r
System Rheoli Gwybodaeth ac a oedd swyddogion wedi datrys y problemau parhaus
gyda'r systemau a oedd ar waith. Dywedodd Swyddogion fod system rhannu
gwybodaeth newydd ar draws y rhanbarth (Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe) mewn
perthynas â gwybodaeth am gamddefnyddio cyffuriau. Mae'n rhannu gwybodaeth
rhwng y cyrff perthnasol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a'r Byrddau Iechyd.
Dywedodd Swyddogion fod y system wedi cael ei threialu ar draws y rhanbarth y
flwyddyn ddiwethaf. Roedd y problemau a oedd yn gysylltiedig â'r cynllun peilot
wedi'u datrys yn bennaf. O ran y ffigurau yr adroddwyd amdanynt, roedd
swyddogion a swyddog monitro perthnasol y gwasanaeth yn hyderus bod y rhain yn
gywir. Mae'r gwasanaeth yn hyderus eu bod, fel BCA, yn darparu'r gwasanaethau
sydd eu hangen. Fodd bynnag, lle nad ydynt, caiff yr is-grwpiau eu hysbysu a
rhoddir atebion ar waith i sicrhau y gellir datblygu'r gwasanaethau.
Amlinellwyd tri gwasanaeth yn yr adroddiad sy'n tanberfformio ac mae camau
unioni wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gwella.
Cododd yr Aelodau'r ffigurau ar dudalen 13 o ran
trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gofynnwyd a oedd y
ffigurau wedi gostwng yn rhan olaf y pandemig. Cyfeiriodd yr Aelodau at y
cynnydd uchel yn y ffigurau ar ddechrau'r pandemig. Cadarnhaodd swyddogion, er
bod y ffigurau'n lefelu, nad ydynt yn dangos y gostyngiad a ddisgwylid. Mae'n
anodd iawn ceisio adnabod patrymau a thueddiadau. Priodolwyd hyn yn flaenorol i
ddigwyddiadau calendr penodol h.y. gemau rygbi etc. Fodd bynnag, mae'r darlun cyffredinol bellach
yn cyflwyno nifer uwch o atgyfeiriadau risg uchel, canolig ac isel sy'n cael eu
gweld gan y Timau.
Holodd yr Aelodau am y ffigurau sy'n ymwneud â'r
dioddefwyr mynych. Nodwyd bod y Dangosydd Perfformiad yn gostwng, ac oedd,
roedd y ffigur yn dal i fod yn goch. Amlinellodd swyddogion yr hyn yr oedd y
ffigur yn ei gynrychioli ac y gellir ei ddehongli mewn dwy ffordd. O safbwynt
delfrydol, gallai gynrychioli bod llai o ddioddefwyr mynych gan eu bod wedi
symud allan o'r gwasanaeth yn llwyddiannus. Neu gallai hefyd gynrychioli bod
llai o ddioddefwyr mynych yn ymgysylltu â'r gwasanaethau. Hysbyswyd yr Aelodau
y byddai'r ffigurau hyn yn cael eu dadansoddi ymhellach ar gyfer Chwarter 4 a
bod mwy o naratif yn cael ei ychwanegu er mwyn sicrhau bod esboniad manylach yn
cael ei ddarparu.
Awgrymwyd y dylid cynnal seminar cynnar iawn i
Aelodau yn dilyn yr etholiad, sy'n canolbwyntio ar gam-drin domestig, ei
gymhlethdodau a'r gwasanaethau sydd ar waith. Cadarnhaodd swyddogion fod
rhywbeth eisoes wedi'i gynllunio. Amlinellodd y swyddog yr hyn a fyddai'n cael
ei drafod yn ystod y sesiwn hon.
Nododd swyddogion y cynnydd yn y cyllid a gafwyd i
gynorthwyo gyda'r ymateb i COVID a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar y
gwasanaethau, gyda'r galw'n cynyddu.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: