Amrywiad ar amodau 1, 3 a 4 caniatâd cynllunio P2019/5650 i ganiatáu caniatâd parhaol, newid amserau agor i 06:00 tan 21:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 07:00 i 16:00 ar ddydd Sadwrn ac 08:00 i 15:00 ddydd Sul, a chaniatáu i gerddoriaeth uchel gael ei chwarae'n unol â'r adroddiad asesiad sŵn a gyflwynwyd yng Nghampfa 'Unit 9', Quay Road, Castell-nedd SA11 1SL.
Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, dychwelodd y
Cynghorydd D Keogh i'r cyfarfod a chymerodd ran yn y drafodaeth a'r pleidleisio
ar hynny, ac ailgadarnhaodd y Cynghorydd C Williams ei ddatganiad o fuddiant a
gadawodd y cyfarfod, a'r drafodaeth a'r pleidleisio ar hynny.)
Gwnaed cyflwyniad gan swyddogion i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (amrywiad ar amodau 1, 3 a 4 caniatâd cynllunio
P2019/5650 i ganiatáu caniatâd parhaol, newid amserau agor i 06:00 tan 21:00 o
ddydd Llun i ddydd Gwener, 07:00 i 16:00
ar ddydd Sadwrn ac 08:00 i 15:00 ddydd Sul, a
chaniatáu i gerddoriaeth uchel gael ei chwarae'n unol â'r adroddiad asesiad
sŵn a gyflwynwyd yng Nghampfa 'Unit 9', Quay Road, Castell-nedd SA11 1SL)
fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd aelod y ward lleol yn bresennol i roi ei sylwadau.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo Cais Rhif P2021/0965, yn unol ag
argymhellion swyddogion, |
Dogfennau ategol: