Agenda item

Cais Rhif P2021/1268 - Bayview, 3 Fernfield, Baglan

Cynyddu uchder crib y byngalo presennol i ddarparu llety yn y gwagle sydd yn y to, estyniad deulawr yn y cefn gyda chyntedd, ynghyd â garej sy'n gysylltiedig â'r ystlyslun gyda theras do uwchben a gwaith cynnal cysylltiedig yn Bayview, 3 Fernfield, Baglan SA12 8AL.

Cofnodion:

(Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd D Keogh ei fuddiant, a gadawodd y cyfarfod a'r drafodaeth a'r pleidleisio ar hynny.)

 

Gwnaed cyflwyniad gan swyddogion i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais (cynyddu uchder crib y byngalo presennol i ddarparu llety yn y gwagle sydd yn y to, estyniad deulawr yn y cefn gyda chyntedd, ynghyd â garej sy'n gysylltiedig â'r ystlyslun ochr gyda theras do uwchben a gwaith cynnal cysylltiedig yn Bayview, 3 Fernfield, Baglan SA12 8AL) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd aelod y ward lleol yn bresennol i roi ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cais Rhif P2021/1268, yn unol ag argymhellion swyddogion.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: